Tudalen:O Law i Law.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

siaradus dros ben, ryw esgus i godi dadl ar Fanteision ac Anfanteision yr Ysgol Sul, Ond y mae yno un neu ddau fel Llew Hughes sy'n cael budd a mwynhad mawr o ymgydnabod â'r beirdd a'r llenorion. Hynny, y mae'n debyg, a rydd ysbrydiaeth a nerth i Mr. Ellis i gario ymlaen mor ddiwyd ac mor frwd.

"'Ydach chi am werthu'r cwpwrdd llyfra', John Davies?" gofynnodd Llew imi.

"Wel, ydw' am wn i. 'Does 'na ddim lle iddo fo yn fy llety, wel'di, ac mae gan Mrs. Humphreys silffoedd llyfra' yno, medda' hi. Nid bod arna' i isio llawar o le i lyfra'." A gwenais wrth daflu golwg tua'r ychydig lyfrau ar ddwy silff uchaf y cwpwrdd derw yn y gornel i'r chwith o'r aelwyd.

"Mi liciwn i'n fawr 'i gael o. 'Mam yn cwyno bod fy llyfra' i hyd y tŷ i gyd."

"Croeso iti ohono fo, Llew."

"Diolch, John Davies. Mae hi'n Sadwrn Cyfri' 'fory, ac fe fydd y dynion gartra o'r chwaral. Mi ga' i help Lewis Roberts ac Ifan Jones i'w gario fo. Meddwl troi'r parlwr acw yn dipyn o stydi, ac fe ffitia hwn i'r gongol wrth y ffenast' yn gampus."

Wedi i Llew Hughes fy ngadael, dygais yr ychydig lyfrau yn bentwr i'r bwrdd. Ar wahân i rai F'ewythr Huw, nid oedd yno ddim o bwys. Gwelais ysgrif yn rhyw gylchgrawn Saesneg rai misoedd yn ôl yn sôn amdanom ni'r Cymry fel cenedl fyfyriol a darllengar, a'r awdur bron ag awgrymu bod athronydd neu lenor neu gerddor ym mhob tŷ. Ia, Llew Hughes a ddangosodd yr erthygl imi â rhyw falchder yn ei lygaid.

"Ond a ydi'r peth yn wir, Llew?" gofynnais iddo.

"Ynwir? Ydi, debyg iawn."

"Oreit. Gad inni enwi'r rhai sy'n byw yn y stryd yma."

Yna, aethom, mewn dychymyg, o dŷ i dŷ y ddwy ochr i'r ystryd hon, a bu'n rhaid i Llew gydnabod nad oedd fawr neb yn darllen dim. Wedyn, ar ôl i Llew fynd adref, aeth fy meddwl i'r bonc lle gweithiaf yn y chwarel. Glyn, fy mhartner a'm cyfaill i — nemor ddim; Ifan Jones — y Beibl ac esboniad neu ddau; Trefor Williams, ei bartner ef — y papur newydd; Robin Llew—dim; yr hen John Ifans — ei