Tudalen:O Law i Law.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Feibl; Dafydd Edwards a Jac, ei frawd—ambell nofel Saesneg go amrwd a'r papur newydd ar ddydd Sul; Huw Huws—dim; Wil Erbyn Hyn—dim. Un "darllenwr mawr" yn unig a ddôi i'm meddwl — Richard Roberts neu 'Dic Mysterious', chwedl ninnau yn y chwarel. Darllenasai Dic ryw lyfr o dan y teitl "The Mysterious Universe" ychydig flynyddoedd yn ôl, ac os llithra rhywbeth am lyfrau neu'r sêr neu'r greadigaeth i'r sgwrs yn y caban neu yn y twll, daw pwl o huodledd gwyddonllyd ar unwaith tros Dic. "Damio fo a'i hen iwnifars," yw sylw ei bartner, Ned Morgan, yn aml. Ond er y sieryd fel un ag awdurdod ganddo, ofnaf i Dic ymfodloni ar fod yn ddyn un llyfr.

Na, y mae'r llyfrau hyn yn fesur gweddol gywir o'r ysfa am ddarllen a fu ac y sydd yn yr ardal. Y mae'n rhaid imi gyfaddef na ddarllenais i ond ychydig, er imi gael y fantais o adnabod F'ewythr Huw a Mr. Jones. Am fy nhad, wel, dacw hwy — dau Feibl, tri Thestament Newydd, pedwar esboniad, "Taith y Pererin," a "Llyfr Pawb ar Bob Peth." Dyna'i lyfrgell, er ei fod yn feddyliwr cryf ac yn ddadleuwr eiddgar. Cofiaf Mr. Jones y gweinidog yn dweud wrthyf, pan gladdwyd fy nhad, na chyfarfu â meddwl mwy treiddgar erioed, ac y buasai, pe cawsai addysg, yn ddiwinydd ac yn athronydd gwreiddiol iawn. Gwir a ddywedai, nid oes dim dwywaith am hynny, ac eto, ni ddarllenai fy nhad ond ei Feibl a'i esboniadau. Pam, tybed? Ai am na chawsai addysg? Ai am fod oriau'r chwarel mor hir? Ai am fod yr arian yn brin? Ai am nad oedd ysfa i ddarllen yn y byd y magwyd ef ynddo? Ni wn i ddim.

"Llyfr Pawb ar Bob Peth"[1] — y mae ôl bysedd fy nhad yn ddu ar ei ddalennau, yn enwedig ar y bennod sy'n ymdrin ag afiechydon. Poenai ef gryn dipyn am gyflwr ei iechyd, gan fod ei ystumog yn anwadal a natur cryd-cymalau yn boen ar ei aelodau, a threuliai lawer o amser yn casglu dail a llysiau ac yn paratoi pob math o feddyginiaethau. Ambell dro, taflai fy mam wydraid neu botelaid o ddŵr-dail allan er mwyn cael golchi'r llestr, ac uchel fyddai cloch fy nhad pan âi am lymaid o'r ffisig bywiol ond diflanedig. Lluchiai fy mam hefyd ambell dusw o wermod neu ddail yr ysgyfarnog i'r domen wrth lanhau silffoedd y gegin fach, ac âi fy nhad yn gacwn.

  1. Mae copi o "Llyfr Pawb ar Bob Peth " ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol