Tudalen:O Law i Law.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pentref y diwrnod hwnnw.

Oedasem yn hir ar y ffordd i'r ysgol gan ddisgwyl gweld ceffylau a cherbydau'r Syrcas yn cyrraedd, ond ofer fu'r aros. Yna, pan ddringem, yn bur anfoddog, y grisiau i iard yr ysgol, cynhyrfwyd Defì Preis drwyddo gan syniad ysbrydoledig. Beth am ofyn i Now Stifì daflu ffìt? Aethom yn ddirprwyaeth at Now ar unwaith, ac egluro'r sefyllfa iddo. Gan fod arno yntau gymaint o eisiau gweld y Syrcas yn cyrraedd â ninnau, cytunodd ar amrantiad; yn wir, taflasai hanner dwsin o ffitiau yn y fan a'r lle oni bai inni ei atal nes i'r Sgŵl ddyfod trwy'r iard ar ei ffordd o'i dŷ i'r ysgol. "Dacw fo'n dŵad, hogia'," sibrydodd Defì Preis o'r diwedd, ac aeth Now Stifi i'r llewyg mwyaf dirdynnol a fu erioed. Daeth ato'i hun yn weddol fuan ar ôl i Francis agor ei goler, ond pan soniodd y Sgŵl am ei arwain i mewn i'r ysgol at y tân, taflodd Now ffit arall a sgrechian am ei fam. Pan ymdawelodd eilwaith, yr oedd tri ohonom — Defi Preis a Dic Ifans a minnau — yn barod iawn i dderbyn gwahoddiad Y Polyn Lein i ddanfon y truan adref. Prin yr oeddym wedi cyrraedd y Stryd Fawr pan glywem y Syrcas yn agosâu; aeth Now Stifi a Defi Preis gyda'r orymdaith i'r Ddôl Uchaf, a throes Dic Ifans a minnau gamau araf yn ôl i'r ysgol.

Y mae John Francis yn ei fedd ers blynyddoedd bellach. Gan mai i gapel arall yr âi — yr oedd yn flaenor yno hefyd— ni wyddwn i hyd ychydig amser cyn ei farw ei fod yn Gymro glân, gloyw. Digwyddwn, ryw dair blynedd ar ôl imi adael yr ysgol am y chwarel, deithio hefo'r Sgŵl yn y trên i Gaernarfon, a mawr oedd fy syndod pan ddechreuodd sgwrsio â mi yn Gymraeg. Saesneg a fuasai ei iaith bob gair yn yr ysgol, a gadewais i'r lle gan gredu mai Sais ydoedd. Y mae'n wir imi glywed fy nhad yn sôn droeon ei fod yn fab i ryw William Francis, hen rybelwr a gofiai ef yn ei ddyddiau cynnar yn y chwarel, ond ni wnâi hynny imi feddwl am Y Polyn Lein fel Cymro Cymraeg o gwbl. Prin y medrwn gael gair i'm tafod pan droes ataf mewn Cymraeg garw, llond ceg, y diwrnod hwnnw yn y trên, ac ymhell cyn inni gyrraedd Caernarfon, sylweddolais mai dyn syml a chyffredin iawn oedd yr hen ysgolfeistr a ofnaswn gymaint. Gwnaethai afiechyd ef yn dawel a llariaidd ac ofnus, ac ni