Tudalen:O Law i Law.pdf/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ystumiau ar ei dafod fel y gwna bron bob areithiwr a glywais i erioed. Yr oedd ganddo rywbeth clir a phendant a diffuant yn ei feddwl, a dywedai ef yn glir a phendant a diffuant, heb golli llwybr un syniad ym mhrysglwyni geiriau. Yr oedd yn rhy onest i ymhyfrydu mewn an- onestrwydd areithyddol. Soniai am Ruskin neu Carlyle, efallai, a dyfynnai linell neu ddwy o farddoniaeth Gymraeg neu Saesneg yn bur aml, ond gwyddech nad rhodresa yr oedd. Gofýnnodd fy nhad iddo unwaith pam yr oedd mor hoff o ddyfynnu "yr hen farddoniaeth Saesnag 'na" yn y Seiat. Gwridodd f'ewythr, ac yna atebodd yn dawel, "Swancio tipyn, Robat, rhag i Rosie Hughes feddwl na fedar neb arall siarad Saesneg ond hyhi, wel'di." Ond gwyddai fy nhad na chlywsai gelwydd mwy erioed.

Atgasedd fy nhad tuag at "yr hen Saesnag 'na," efallai, a wnâi i'm hewythr gyfieithu llawer o'r pethau a ddyfynnai yn y Seiat i'r Gymraeg. Gynnau, pan euthum drwy ei lyfrau, llithrodd darn o bapur bychan allan o un ohonynt, ac adnabûm, ar unwaith, ysgrifen ofalus a destlus F'ewythr Huw. Llyfr o farddoniaeth Saesneg ydoedd, cyfrol o gerddi'r bardd Americanaidd James Russell Lowell. Eisteddais wedyn yn y gadair-siglo wrth y tân, a'r papur yn fy llaw, gan gofio, bron air am air, un o areithiau blasus f'ewythr yn y Seiat. Sôn yr oedd am yr hyn yr hoffai Iesu Grist inni fod — yn syml a chywir a charedig, ac yna dechreuodd roddi inni gynnwys un gân o waith James Russell Lowell. "'Dameg' ydi enw'r darn," meddai, "ac mae gan y bardd stori fach brydferth iawn ynddo fo. Fe benderfynodd Iesu Grist, medda fo, ddŵad yn ôl i'r hen fyd 'ma i weld a oedd pobol yn credu ynddo Fo mewn gwirionedd ai peidio. Fe yrrodd negas i ddweud am 'I ymweliad ymlaen llaw, a dacw esgobion a brenhinoedd y byd yn gwneud trefniada' ar 'I gyfar O. Lle bynnag y byddai O'n debyg o droedio, dyna roi carpedi o aur ar y llawr, a pharatoi llety iddo Fo mewn plastai a chastelli, ac wrth gwrs, y bwyd gorau a roed o flaen neb erioed.

'Ymchwyddai organ ar ôl organ gref
Mewn gorfoleddus fawl i'w Enw Ef,'

ac ym mhob eglwys a phlas a llys barn gwelai Ei ddelw Ef Ei Hun yn amlwg ac yn hardd.