Tudalen:O Law i Law.pdf/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hewythr ddarllen ei Feibl, gwylltiodd fel matsen a dweud bod "mwy ym mys bach y Plato 'ma nag oedd yn holl broffwydi'r Hen Destament hefo'i gilydd. "Brysiodd fy mam i'n galw at ein swper.

Darllenais innau y rhan fwyaf o'r llyfrau a oedd gan F'ewythr Huw — "Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill," "Caniadau Cymru," "Llyfr y Tri Aderyn," "Y Bardd Cwsg," "Drych y Prif Oesoedd," "Homiliau Emrys ap Iwan," gweithiau Eben Fardd, a Cheiriog, ac Islwyn, nofelau Daniel Owen, a "Straeon y Chwarel" gan R. Hughes Williams. Ni flinai f'ewythr ar storïau Dic Tryfan, chwedl yntau, a châi fy nhad hefyd bleser mawr yn y llyfr. Cofiaf lawer seiad ar yr aelwyd pan ddarllenai f'ewythr un o'r storïau allan i'm tad ac Ifan Môn a Dafydd Owen. "'Rargian fawr!" "Wel, da drybeilig!" "Mae o'n 'i dallt hi i'r dim!" fyddai'r sylwadau aml, a phan ddôi rhai o dermau arbennig y chwarel i'r stori, dyna dri phen yn nodio ar ei gilydd ac yna'n troi at y darllenwr gyda gwên o werthfawrogiad, fel petai ef, ac nid R. Hughes Williams, fuasai awdur y llyfryn. Daeth cymeriadau'r storïau hyn— Harri Trwyn Cam, Robin Deg o'r Gloch, Huw Huws, Robin Bwt—yn boblogaidd iawn yn ein tŷ ni yr amser hwnnw; yn wir cofiaf Ifan Môn yn taflu" fel y buasai Huw Huws yn dweud" neu "chwedl yr hen Robin Bwt druan" i mewn i lawer ymgom am y chwarel.

Darllenais y rhan fwyaf o lyfrau Saesneg f'ewythr hefyd, er bod rhaid imi gyfaddef na chefais i mo'r blas amynt a gâi ef. "Sesame and Lilies" gan John Ruskin, er enghraifft — darllenais hwnnw ddwywaith, gan geisio pwysleisio yn fy meddwl y pethau a farciodd f'ewythr ar ymyl pob tudalen, ond pur araf ac anodd fu fy nhaith drwy'r llyfr. "The Ethics of the Dust" gan yr un awdur, "Sartor Resartus" gan Thomas Carlyle, dramâu Shakespeare yn y gyfrol acw o ledr hardd, "David Copperfield," barddoniaeth John Milton, cerddi Robert Browning — do, mi geisiais eu darllen i gyd o dro i dro. Sut na chaf i yr un pleser ynddynt ag a gâi F'ewythr Huw? A dacw'r nofel fach acw gan J. M. Barrie — "A Window in Thrums." Soniai f'ewythr am Jess a Leeby a Hendry fel petai wedi ei fagu hefo hwy, ond ni afaelodd y nofel a'i thafodiaith