Tudalen:O Law i Law.pdf/160

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y . . . Y dach chi . . Y? . . . Be' wnewch chi hefo arfau'ch, tad? 'Ydach chi am 'u gwerthu nhw?"

Wel 'wn i ddim, wir. Mae gen' i arfau newydd bron i gyd, a 'fydd arna' i ddim isio rhai am flynyddoedd. 'Doeddwn i'n cofio dim am rai 'nhad yn y cwt."

"Mi fûm i'n sôn wrth eich mam amdanyn' nhw droeon, fel y gwyddoch chi. Os basai hi'n 'u gwerthu nhw i rywun' fi fasai'n 'u cael nhw, medda' hi. Ond gwrthod 'madael â nhw ddaru hi hyd y diwadd. 'Wna i ddim pwyso arnoch chi, John Davies, ond os byddwch chi am ollwng yr arfau o'ch dwylo, mi liciwn i gael y siawns gynta' arnyn' nhw. Mae fy rhai i wedi treulio'n o arw, ac mae'n hen bryd imi gael rhai gwell."

"Mi wn y basai 'nhad mor barod i chi 'u cael nhw â neb. Dowch draw bora 'fory i'w nôl nhw."

"'Ydach chi'n siẃr na fydd arnoch chi mo'u hangen nhw?"

"Ydw'. Cofiwch ddŵad yma amdanyn' nhw bora 'fory."

"O'r gora', John Davies . . . Nos dawch 'rŵan."

Bu arfau fy nhad yn llond fy meddwl er pan aeth Dafydd Owen adref. Maent yn bentwr taclus yng nghongl y cwt ers rhyw dair blynedd bellach, ac wedi marw fy nhad ddwy flynedd yn ôl, gwrthododd fy mam eu gwerthu i neb. Ffolineb, efallai, fu eu gadael i rydu a difetha yn y cwt, ond ni feiddiwn i awgrymu hynny wrthi. Gwelais hi droeon yn taflu golwg annwyl a hiraethus arnynt pan âi am rawiaid o lo neu rywbeth i'r cwt, a deliais hi unwaith, â dagrau yn ei llygaid, yn plygu i gymryd cŷn bychan yn ei llaw.

Aethaf fy nhad yn wael tua phedair blynedd yn ôl, yn llwyd a gwan, heb flas ar fwyd na dim arall. Yr oedd yn rhaid iddo orffwys, meddai'r meddyg, ac aros gartref o r gwaith am dipyn. Bu gartref am fisoedd, yn sefyllian hefo r hen frodyr wrth y Bont Lwyd, neu'n crwydro hyd lethrau Bryn Llus i chwilio am lysiau, neu'n loetran wrth yr orsaf i wylio'r trenau yn cyrraedd neu n ymadael. Gwyddwn i a'm mam fod y segurdod hwn fel gwyfyn a rhwd yn ei lygru ef, a thrist inni oedd ei weld yn syllu mor aml ac mor freuddwydiol a hiraethus i gyfeiriad mynydd y chwarel. Ai at y meddyg yn ffyddiog bob bore Gwener, a r un tyuda1 ei gwestiwn eiddgar bob tro — "Ga i ddechra ddydd Llun