inni fynd i mewn. "Yma yr ydan ni'n pwyso'r rwbel sy'n mynd i'r hen doman acw wrth ochor y Neidr . . . Sut 'rydach chi'n teimlo, Robat Davies?"
"Go wantan, wir, Ffowc. Ond wedi hen flino ar fod gartra'n segur wel'di. Sut mae'r hen goes?"
"Fel hen gi yn trio fy mrathu i drwy'r dydd. Mi liciwn i 'i saethu o, yn lle 'i fod o'n chwyrnu ac yn brathu fel hyn o hyd. Ond 'fallai mai saethu fy hun 'wnawn i wrth drio, welwch chi . . . 'Glywsoch chi'r stori ddwytha' am yr hen Erbyn Hyn?
"'Wn i ddim. Pa un, Ffowc? "
"Stori'r smocio?"
"Naddo, wir, fachgan."
"He, 'roedd yr hen Wil yn pwyso ar 'i wagan ac yn cael mygyn bach ar 'i ffordd i ben y doman. Pwy ddaeth heibio ond y Stiward. 'William,' medda' fo, ' 'tasai'r Bod Mawr wedi meddwl i chi smocio, mi fasai wedi rhoi corn simdda ar eich pen chi.' Dyma Wil Erbyn Hyn yn 'styried am funud, ac wedyn, ' 'Tasai'r Bod Mawr wedi meddwl imi dynnu wagan i ben y doman,' medda' fo, ' mi fasai wedi rhoi bachyn yn fy nghefn i!'"
Ffrwydrodd chwerthin Ffowc dros y cwt, ac ymunodd fy nhad yn dawel. Ond gwyddwn ei fod yn hiraethu am gyrraedd ei wal, a brysiais allan o'r cwt o'i flaen, gan gymryd arnaf fy mod yn ofni i'r Stiward ein dal yn cyrraedd ein gwaith mor hwyr. Fel yr aem heibio i wynebau agored y waliau, peidiai'r naddu a'r hollti ym mhob un, a galwai lleisiau llon arnom — "Helô, Robat Davies!" "Welcom hôm, giaffar!" "Pwy ydi'r Stiward newydd 'ma, John?"
Yr oedd yn dda ganddo gael eistedd wrth y drafel yn y wal. Gwelwn y chwys yn ddiferion gloyw ar ei dalcen ac uwch ei wefus. er bod y bore'n oer.
"'Fyddai ddim yn well i chi fynd i'r caban am banad cyn dechra' gweithio, 'nhad?" gofynnais.
"'Panad? A hitha' ond newydd ganu! A finna' heb wneud un strôc o waith! Tyd, rho'r gyllall naddu 'na imi. A hollta ditha' glwt ne' ddau imi, yn lle sefyll fel gŵr bonheddig yn fan 'na."
Euthum ati ar unwaith i hollti clwt o garreg, a chydiodd yntau 'n eiddgar yn y llechi a basiwn iddo. Gafaelodd yn