y pren-mesur fel hogyn yn trio'i law am y tro cyntaf erioed, a gloywai ei lygaid wrth iddo daro min y llechen ar lafn y drafel a dechrau ei naddu hefo'r gyllell. Dug yr hen fedr ryw ynni newydd i'w fraich a'i law, a daeth gwên hapus i'w wyneb fel y rhoddai'r gyllell uniondeb miniog i ochr y llechen. Ond mor wyn a meddal y gwnaethai segurdod ei ddwylo! Ofnwn weld y llechen yn suddo i'w gnawd, neu'r bysedd tenau'n llithro o dan lafn y gyllell fawr.
"Mae'r hen lechi 'ma'n oer, fachgan," meddai ymhen ennyd. "Mae fy nwylo i bron â fferru . . . Ydyn', wir . . Bron â fferru, John bach."
Euthum i'r wal nesaf at Ifan Môn, a chefais fenthyg ei fenyg difysedd ef.
"Hwdiwch, 'nhad; triwch rhain."
Ond dal i gwyno am yr oerni a wnâi, a gwelwn fod hynt y gyllell naddu 'n mynd yn fwy a mwy ansicr ar hyd marciau'r pren-mesur ar fin y llechen.
"Fy mysadd i wedi mynd yn hollol ddiffrwyth, fachgan. Cyn oerad â'r llechan 'ma. 'Wn i ddim pryd y mae'r llechan yn fy llaw i a phryd y mae hi heb fod. Tyd di i naddu; mi hollta' inna' yn dy le di."
Codais oddi ar y blocyn i wneud lle iddo, ond gan wybod y byddai'r cŷn yn llawn mor oer â'r llechen yn ei law.
"Dyna well, fachgan, " meddai, wrth guro'n ysgafn ar ben y cŷn. "Carrag dda, carrag rywiog. Fe holltith hon mor dena' â phapur."
Na, nid oedd y dwylo medrus wedi anghofio sut i hollti clwt o lechen. Yr oedd yr ysglodion a ryddhâi'r ddau gŷn fel dalennau o bapur; llechi gwyrddlas, rhywiog, o'r fargen orau a fuasai gennyf i erioed yn y twll. Ond cyn bo hir, llithrodd cŷn o'i law, a chaeodd ac agorodd ei ddwrn yn gyflym ddwywaith neu dair.
"Wedi chwysu ar yr hen Neidr 'na yr ydw' i, " meddai, "wedi chwysu ac oeri wedyn . . . Mi a' i draw i'r caban i gynnau siwin o dân ac i wneud 'panad fach imi fy hun."
"O'r gora', 'nhad. Mi a' inna' i lawr i'r twll."
"'Wyt ti'n saethu heddiw?"
"Ydw', am un ar ddeg, 'nhad. Mae popeth yn barod gen' i: mi fûm i'n tyllu ddydd Gwenar, ac mi es at y Stiward