Tudalen:O Law i Law.pdf/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trosof oni bai imi ei yrru i'r cwt-ymochel pan ganodd corn un ar ddeg.

Rhyfedd fel y gwna distawrwydd i chwi sylwi ar bethau! Pan ganodd corn un ar ddeg, tawelodd y twll i gyd, y wagenni a'r trosolion a'r cynion a'r morthwylion, ac yn y tri munud cyn i'r corn-saethu ganu, brysiai pawb i'r cwt-ymochel. Pawb ond fy nhad: loetran wrth fy ymyl yr oedd ef, nes imi ei yrru ymaith. Gwyliais ef yn mynd yn araf, gan aros ennyd ar ei ffordd i syllu ar yr haid o frain yn hedfan tros ben y twll: gwyddent hwythau ei bod hi'n amser tanio. Clywn ddarnau o lechi yn crensio dan ei draed, ac yna peidiodd y sŵn fel y safai am foment i wylio Richard Roberts—Dic Mysterious, chwedl ninnau—yn gŵyro uwch ei ffiws yr ochr arall i'r twll. Do, meddwn wrthyf fy hun, fe aeth fy nhad yn hen yn ddiweddar. Edrychais, yn y tawelwch, ar y gwallt gwyn islaw'r hen het galed a wisgai bob amser yn y chwarel, ar y gwddf tenau, ar yr ysgwyddau crwm, ar y traed araf eu cam. Ni ddylai fod yn y chwarel o gwbl heddiw; gartref wrth y tân oedd ei le. Ymddangosai'n unig a thrist iawn ar ei ffordd i'r cwt-ymochel, y chwarelwr medrus a chydwybodol hwn a wyddai fod ei ddyddiau gwaith ar ben. Y chwarel, ei gartref, a'i gapel—dyna dri diddordeb ei fywyd, a llithrai un ohonynt yn gyflym o'i afael llesg. Daeth i'm clust grawc y frân olaf a ddihangai o ben y twll.

Canodd y corn-saethu, corn tri munud wedi'r awr, a threwais fatsen olau ar ben y ffiws. Yna, rhuthrais i'r cwt-ymochel, gan ddisgwyl cael fy nhad yn crynu'n dawel a thrist mewn congl. Yn lle hynny, dyna ef a'r hen John Ifans yng nghanol y llawr ac o'u cwmpas ddistawrwydd astud.

"Ond mae'r Apostol yn dweud, John Ifans . . .," meddai llais fy nhad, ond tawodd pan ddeuthum i i mewn, gan droi ei ben i wrando am y ffrwydriad yn y graig. Rhyfedd, meddwn wrthyf fy hun, fod pawb yn gwrando mor dawel ac mor barchus ar lais fy nhad. Nid oedd Robin Llew na Wil Erbyn Hyn yn malio botwm corn beth oedd yr Apostol yn ei ddweud; ni thaflai'r Apostol unrhyw oleuni ar hynt Manchester United neu Aston Villa, ac ni wyddai ef pa geffyl a haeddai aberthu sylltyn er ei fwyn. Pam, ynteu,