Tudalen:O Law i Law.pdf/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond nid oedd modd atal yr ynni chwyrn a losgai ynddo.

Erbyn i'r corn ganu hanner dydd, yr oedd wedi llwyr ymlâdd, a da oedd gennyf droi ymaith gydag ef tua'r caban-bwyta. Gadawsom i'r dynion eraill ddringo'r ysgol haearn o'n blaen i fyny i'r bonc, a chyda thipyn o ymdrech y medrodd ef gyrraedd y lan.

"Hy, mae'n rhaid fy mod i'n mynd yn hen, fachgan," meddai eto, gan ei sadio'i hun ar y gwastad uwchben y twll. "Rhaid, wir, John bach."

Mawr oedd y croeso a gafodd yn y caban, a pherliai dagrau yn ei lygaid wrth i'r dynion ei gyfarch mor siriol a chynnes. Chwarddodd fel plentyn mewn te-parti wrth afael unwaith eto yng nghlust yr hen gwpan â llun y Brenin a'r Frenhines arni, ac agorodd ei dun bwyd yn awchus. Parablai hefyd yn ddi-daw, a rhyw wên braidd yn blentynnaidd ar ei wyneb llwyd.

"Be' sy gen' ti, John? 'Oes gen' ti fwy o gaws na fi, dywed? Oes, wir, fachgan. 'Rydw' i yn cael cam, 'rhen Ifan. Ydw', wir. Ac mae gynno fo fwy o deisan na fi hefyd! Rhaid imi godi row pan a' i adra. 'Dydi peth fel hyn ddim yn deg o gwbl . . ."

Yr oedd clebran fel hyn yn beth croes i'w natur, ond gwnaeth Ifan Joncs a minnau ein gorau i fwynhau'r digrifwch annaturiol hwn. Dug Robin Llew ei debot a'i dun bwyd at ochr fy nhad; wrth fwrdd arall yr eisteddai Robin fel rheol, ond tybiwn iddo ddyfod atom ni er mwyn gwneud ymdrech i godi calon fy nhad.

"Be' ydi pris haddock y dyddia' yma, Wil?" gwaeddodd ar Wil Erbyn Hyn, a eisteddai ym mhen arall y caban.

"Mae peint yn dipyn rhatach, was," oedd yr ateb.

Chwarddodd pawb, ond edrych braidd yn ddryslyd arnom a wnâi fy nhad. Ni chlywsai ef mo'r stori.

"'Ddeudodd John mo stori'r haddock wrtha' chi, Robat Davies?" gofynnodd Robin.

"Naddo, wir, fachgan. Be' ydi hi?"

"O, mae'r hen Wil yn reit ffond o'r ddiod, fel y gwyddoch chi. Mi benderfynodd fynd draw i'r pentra un noson am dipyn o sbri, ond 'doedd o ddim yn siŵr faint o arian oedd gynno fo ar gyfar y Red Lion. Dyma ddechra' gwneud y sym i fyny hefo darn o sialc ar y wal tu allan i'r Barics.