Tudalen:O Law i Law.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bach?" "Rhaid," meddwn innau, gan daro'r tun-bwyd o dan fy mraich a gwthio fy mawd i gesail fy ngwasgod. Ond go anodd oedd ei sgwario hi a'ch coesau chwi 'n rhy fyrion i gamu allan fel y bydd pob chwarelwr wedi'r caniad.

Rhywfodd, nid yr un Ifan Jones oedd hwnnw a gadwai drefn ar ddosbarth ohonom yn yr Ysgol Sul. Yr oedd arnaf ei ofn bob prynhawn Sul, er y galwai fi'n "John bach" bob amser wrth ofyn imi ddarllen adnod neu ateb cwestiwn. Ein cadw ni'n dawel oedd ei fryd a'i ddyletswydd, ac yn wir, yr oeddym ni fel llygod i gyd pan ddigwyddai Ifan Jones wgu ar un ohonom. Gafael yn eich clust a'i phinsio oedd ei ffordd ef o'ch cosbi, ond pur anaml y byddai'n rhaid iddo wneud hynny, gan fod ei edrychiad yn ddigon. Dywedasai'r Arolygydd un diwrnod mai gan Ifan Jones yr oedd y dosbarth tawelaf yn yr holl ysgol, a gwnâi ymdrech arbennig wedyn i ladd pob siarad a phob chwerthin. Dafydd Preis, 'Defi Barbwr', oedd y mwyaf siaradus yn ein plith, ac âi ef adref bob prynhawn Sul a'i glust cyn goched â thrwyn ei dad ..." Tyd ti i eistadd i'r fan yma ataf fi, y cnonyn bach. 'Faint o weithia' . . .? Hy, mae hwn 'run fath â'i dad yn union. Mi ro' iti gardia' sigaréts! Dyro nhw i mi . . . A'r lleill . . . A'r lleill eto . . . 'Oes gen' ti chwanag? Tyn bocedi'r trowsus 'na allan." A dyna ddwylo Dafydd Preis yn gwasgaru'r tryblith rhyfeddaf ar y sedd ..." Hy, i be' mae isio marblis ar y Sul? . . . A lle cefaist ti'r matsis 'ma? . . . Pwti, ai e? . . . 'Wyddost ti fod y watch 'na yn werth arian os medar rhywun ond y Bod Mawr 'i thrwsio hi? Yn dy drowsus pob-dydd y mae petha' fel hyn i fod. Darllan yr adnod 'na eto cyn imi roi'r pwti 'ma i lawr dy gorn gwddw di . . . "Ac a bysedd Ifan Jones ar waelod ei glust, darllenai Defi druan mor rhugl ag y gallai.

Bodlonai Ifan Môn, gan amlaf, ar ofyn inni ddarllen adnodau ac yna ateb cwestiynau ar ystyr geiriau. Ond weithiau, adroddai stori wrthym, ac nid oedd yn rhaid iddo binsio clust neb wedyn. Oherwydd yr oedd ganddo ddawn anarferol i ddweud stori, a chyffroai drwyddo wrth ei dweud. Stori o'r Beibl fyddai hi, wrth gwrs, ond lliwiai Ifan Jones bob digwyddiad â'i ddychymyg ei hun. Mab rhyw ffarm