Tudalen:O Law i Law.pdf/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Siwgwr — hyn-a-hyn; te — hyn-a-hyn; bara — hyn-a-hyn; pres i fynd adra i'r wraig yn Sir Fôn — hyn-a-hyn; 'menyn, caws, cig moch, tatws, gwadnu'i 'sgidia', sebon — 'roedd o'n trio cofio am bopath, ac 'roedd 'na sym go fawr ar y wal cyn y diwadd. Dyma adio'r cwbwl at 'i gilydd a ffeindio bod gynno fo ryw bumswllt ar ôl o'i gyflog ar gyfar codi' i fys bach."

Cymerodd Robin swig hir o big ei debot cyn mynd ymlaen â'i stori.

"Wel, y noson honno — nos lau oedd hi — 'roedd o wedi meddwl prynu haddock i swpar a dŵad â hi'n ol hefo fo o'r pentra i'r Barics. Ac 'roedd yr haddock, wrth gwrs, i lawr yn y sym ar y wal. 'Dim ond pumswllt am sbri!' medda' Wil wrtho fo'i hun, a dyma fo'n dechra' poeri ar 'i fysedd i rwbio petha' allan o'r sym. 'Hy, mi fedra' i wneud heb wadnu fy 'sgidia' am dipyn eto,' medda' Wil wrth y wal, a dyma rwbio'r eitam honno allan. 'Pwys o gaws!' medda' fo wedyn. 'Gloddesta ydi peth fel'na. 'Does ar neb isio pwys o gaws mewn wsnos.' A dyma newid y pwys o gaws yn hannar pwys. O'r diwadd, 'roedd y bare minimum, chwedl Meic yr Undab, yn y sym ar y wal, ond 'doedd yr hen Wil ddim yn fodlon fod gynno fo ddigon ar gyfar 'i sbri. Dyma fo'n cymryd cam yn 'i ôl ac yn gwgu a chwyrnu ar y sym.' 'Adoc?' medda' fo wrtho'i hun, gan boeri ar 'i fysadd. ' Be' ddiawl mae isio 'adoc ar ddyn?'"

Yr oedd fy nhad wrth ei fodd yn y caban, yn gwrando ar yr ymgomio ac yn gwylio pob symudiad ar bob bwrdd. Chwarddodd fel plentyn wrth weld yr hen John Ifans yn codi, yn ôl ei arfer, i daro'r procar yn y tân i'w wneud yn wynias ar gyfer ei bibell.

Crwydrodd y dynion ymaith fesul dau a dau, ac yna cododd Ifan Jones.

"Wel," meddai, "mae'n rhaid imi 'i throi hi adra 'rŵan."

"Adra?" gofynnodd fy nhad yn syn.

" Ia, Meddwl mynd i gynhebrwng yr hen Richard Morris, Ceunant."

"O?"

Syllodd fy nhad i lawr ar y bwrdd, ac yna cododd ei