Tudalen:O Law i Law.pdf/175

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

X —CLOI

Wel, bore dydd Sadwrn a ddaeth o'r diwedd, a bu hi fel ffair yma ers dwyawr. Prin y cliriasai Meri Ifans lestri'r brecwast o'r bwrdd cyn i bobl ddechrau galw i nôl eu pethau. Cyrhaeddodd Ifan Jones a Dafydd Owen a Lewis Roberts hefyd yn gynnar i roi help llaw i gario'r dodrefn, ac wedyn, dyna'r hen dŷ yn mynd yn wacach, wacach, o hyd. Gwelyau, matresi, cadeiriau, byrddau, matiau, llestri — gwyliais bob math o bethau 'n cael eu dwyn ymaith gan hwn a'r llall. Edrychai llawer un yn dosturiol arnaf, a gwelais rai yn sibrwd wrth ei gilydd. Ond ni theimlwn yn drist. Yr oedd gormod o siarad a ffwdan o'm cwmpas imi gael cyfle i droi'n bruddglwyfus. A digwyddodd amryw o bethau digrif — Meri Ifans bron â llewygu wrth weld Leusa Morgan yn cyrraedd ag arian yn ei dwm i dalu am y gwely a werthasai Ella iddi; Jim ac Ella yn darganfod, wrth geisio'i gael heibio i gongl y gegin fach, mai peth go anhylaw ydyw bwrdd; Llew Hughes ar bigau'r drain ac yn dawnsio o gwmpas â blaenau ei fysedd yn ei geg wrth wylio Lewis Roberts a Dafydd Owen yn cario'r cwpwrdd