Tudalen:O Law i Law.pdf/179

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agored lle cadwai fy mam bob math o bethau'n hwylus at ei llaw. Yno yr oedd y blwch te, dysgl i gadw wyau, pentwr o blatiau gwynion plaen, basged fach ag iddi leinin o wlanen werdd, ar gyfer cyllyll a ffyrc a llwyau, a jwg blodeuog â darnau o linyn tros ei fin bob amser. Ar y pen chwith, mewn unigrwydd urddasol, yr oedd y Beibl mawr; ar y pen arall, ei sialc coch a gwyn, y coch yn sblas ar ei ben a'i frest a'i gefn.

Yng ngwaelod y dresel, o dan y tair drôr, yr oedd powliau o bob lliw a llun a maint. Credaf fod rhyw ugain ohonynt yno, ond safai deg ar ei gilydd a'u pennau i lawr, pedair yn sylfaen, tair ar ben y rheini, dwy ar eu pen hwythau, a'r olaf un o'r deg yn dŵr ar y cwbl. Pan oeddwn i'n blentyn, byddai'n rhaid i'm mam chwalu'r adeilad hwn yn bur aml, gan mai uchelgais fy mywyd, y pryd hwnnw, oedd medru ymwthio i mewn i'r silff fawr hon. Llawer tro y tynnodd fy mam y powliau allan a rhoi clustog neu ddwy ar y llawr ac yng nghongl y silff er mwyn rhoi lle cynnes a chysurus imi yng ngwaelod y dresel. Yno, â'r derw du yn furiau o'm cwmpas, y cuddiwn yn aml pan ddeuai fy nhad adref o'r chwarel; caewn fy llygaid, gan gredu, am na welwn i ef, na welai yntau mohonof innau.

Ni chymerais i ddiddordeb mawr yn llestri'r hen dresel hyd onid oeddwn tua deg oed. Un diwrnod, deuthum adref o'r ysgol â'm gwynt yn fy nwrn, gan ofyn i'm mam dynnu un o'r platiau-pren-helyg i lawr imi gael syllu arno. Miss Jones, f'athrawes yn Standard III, a adroddasai'r stori sydd yn y patrwm wrth y dosbarth, a brysiais innau adref i'w dweud wrth fy mam. Ceisiais ei chofio, rai dyddiau'n ôl, i'w hadrodd wrth Wil, hogyn Jim ac Ella, ond yr oedd yn amlwg na feddyliai Wil lawer ohoni. "Twt, stori i ryw hen gennod gwirion," oedd ei farn ef. Efallai fod Wil yn iawn, ond cofiaf i'r stori wneud argraff ar fy meddwl i — am fod fy mam mor falch o'r platiau, y mae'n debyg. Sut yr oedd yr hen chwedl yn mynd hefyd? Yn y plas ar y dde, a'r pren oraens yn llawn ffrwythau tu ôl iddo, a choeden yr afal gwlanog, arwydd priodas a hir ddyddiau, gerllaw, trigai pendefig a'i unig ferch, Koong-Se. Penderfynodd ei rhoddi'n wraig i Ta-Jin, henwr cyfoethog yn ei lys, ond un diwrnod, gwelodd ei ferch a'i glerc, Chang, yn caru o dan y