Tudalen:O Law i Law.pdf/181

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diwedd. "Mae'r hen dresal a'r llestri mor werthfawr. 'Fedra' i ddim meddwl am eiria' i ddiolch i chi, wir."

Rhyfedd mor arwynebol yw ein syniadau am werth! Y mae'n rhaid inni gael gweld pethau â'n llygaid a'u cyffwrdd â'n dwylo cyn eu galw'n werthfawr. I Meri Ifans y mae gwerth aruthrol yn y dresel, ond tybed a oes ynddi'r ganfed ran o werth y caredigrwydd a ddangosodd hi i'm mam a minnau? Bu llawer o bobl yn synnu a rhyfeddu at y platiau a'r jygiau cain yn ystod y dyddiau diwethaf yma; ond ni welai neb ddwylo caredig Meri Ifans yn paratoi pryd o fwyd imi neu'n glanhau o amgylch yr aelwyd. Efallai, wedi'r cwbl, mai mewn cymwynas seml y mae'r gwir werth, ond bod mwgwd ar ein llygaid ni oll. Gallwn roddi pris ar blât neu jwg: tybed ai'r pethau na fedrwn ni gynnig pris arnynt sydd o wir werth?

O dŷ fy nhaid a'm nain ym Môn y daeth y dresel yma. Rhyw saer gwlad tuag Amlwch a'i lluniodd hi dros gan mlynedd yn ôl ar gyfer tad fy nhaid, a hi oedd brenhines cegin dlodaidd y tyddyn bach lle magwyd fy nhaid. Wedi iddo dyfu'n llanc a phriodi, dug ei wraig, geneth o Bensarn gerllaw, adref i fyw i'r tyddyn, ac yno y ganwyd eu dau blentyn—fy nhad a'm Hewythr Huw. Mewn tlodi mawr y magwyd hwy, er y llafuriai fy nhaid a'm nain yn galed ofnadwy. Fy nain a ofalai am ddwy fuwch a dau fochyn a thri dwsin o ieir y tyddyn; gweithiai fy nhaid ym mwnglawdd Mynydd Parys. Gweithiasai yno er pan oedd yn wyth oed, gan ennill, i ddechrau, rôt y dydd o ddeuddeg awr. Nid oedd ond deuddeg oed pan aeth "i lawr" i gloddio'r copr, ac yno y llafuriodd fel caethwas am weddill ei oes. Llawer "Sadwrn setlo" y dôi adref heb ddimai goch ar ôl mis o waith melltigedig o galed; daliai'r meistri arian yn ôl o'r cyflog am ganhwyllau a phowdwr a minio'r ebillion a chodi'r mŵn o'r gloddfa. Yn wir, ar ddiwedd ainbell fis, troai fy nhaid tuag adref mewn dyled i'r gwaith, gan fod costau gwarthus hyn yn fwy na'r arian a enillasai ef mewn mis o chwysu ac ymdrabaeddu yn nyfnderoedd y ddaear. Ceisiai fy nain ei berswadio i adael y lle, ond nid oedd bywoliaeth yn y tyddyn a'i dri chae bychain, llwm, a rhaid oedd cael bwyd iddynt hwy ac i'w dau o blant. Felly, o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, âi fy nhaid druan i