Tudalen:O Law i Law.pdf/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lawr siafft y 'Coronation' i'w ladd ei hun wrth geisio ennill tamaid i'w deulu bach. A phob bore am chwech, yn y Cyfarfod Gweddi a gynhelid yn yr efail ar yr wyneb, diolchai i Dduw iddo fedru cadw ei blant rhag llwgu.

Penderfynodd fy nhad nad âi ef i afael gorthrwm y gwaith copr. Crwydrai llawer o ddynion o'r ardal i weithio yn chwareli Arfon, er bod y cyflogau yno'n druenus o fychain a'r damweiniau'n aml. Ymysg yr anturwyr hyn yr oedd Edward Morus, cymydog fy nhaid — 'Ned yr Injian', fel yr adnabyddid ef yn gyffredin. Buasai ef unwaith yn "landiwr" yn codi mŵn i fyny o Siafft y Coronation; ond yr oedd yn ddigon medrus hefo peiriannau i ennill lle fel gyrrwr peiriant yn chwarel Llanarfon. Talai ymweliad â'i hen ardal ym Môn weithiau, ac ar un o'r troeon hyn yr awgrymodd i'm tad, hogyn deuddeg oed y pryd hwnnw, fynd i fyw ato ef a dechrau gweithio yn y chwarel. Neidiodd yntau at y cynnig, a chafodd groeso a chysur ar aelwyd Edward a Leusa Morris. Ymunodd ei frawd, F'ewythr Huw, ag ef ymhen rhyw ddwy flynedd, ac er nad enillent ond digon i gadw corff ac enaid ynghyd, llosgai rhamant y bywyd a'r amgylchfyd newydd yn fflam yn eu calonnau. Aent adref i Fôn unwaith bob mis, ar nos Wener Cyfrif Mawr, yn llawn o hanesion am y chwarel, a chludent yn ôl i Lanarfon gowlaid o gynnyrch y tyddyn — ymenyn ac wyau a chig moch a phob math o bethau y buasai fy nain yn eu casglu iddynt am fìs cyfan.

Gweithiodd fy nhad yn y chwarel am bymtheng mlynedd cyn ennill digon o arian i feddwl am briodi. Yna, pan oedd yn saith ar hugain, aeth â'm mam adref gydag ef un nos Wener. Hoffodd fy nhaid a'm nain hi ar unwaith, a mawr fu ei chroeso yn y tyddyn. Ond er y croeso a'r sirioldeb i gyd, teimlai fy mam fod rhyw gwmwl yn yr awyr.

"Mae 'na rywbath yn poeni dy dad a'th fam, Robat," meddai wrth fy nhad. "Be' ydi o, tybed?"

"Methu'n lân â gwybod be' i'w roi yn anrheg priodas inni y mae nhw. 'Does ganddyn' nhw ddim modd i brynu dim o werth. Mi ddaru nhw benderfynu gwerthu'r ddau fochyn, ond mae prisia' moch yn gynddeiriog o isel 'rŵan. 'Wyddon' nhw yn y byd mawr 'ma be' i'w wneud."

"'Does dim isio iddyn' nhw chwilio am ddim inni,"