Tudalen:O Law i Law.pdf/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chwarae teg i Mrs. Humphreys, gwnaeth le hynod gysurus imi yma yn fy llety. Eisteddaf yn y gadair freichiau y byddai fy nhad mor hoff ohoni, a'r ochr arall i'r aelwyd y mae cadair-siglo debyg iawn i'r un a oedd gan fy mam. Disgleiria tanllwyth gwresog yn y grât, ac anodd fyddai i neb ddod o hyd i le tân mor loyw ac mor lân. Y mae powlen â'i llond o ffrwythau ar y seld acw, ac ar y pen arall gawg yn dal blodau. Pan ddeuthum yma, ychydig ddyddiau'n ôl, i weld yr ystafell, soniais wrth Mrs. Humphreys na hoffwn y mil a myrdd o deganau ar fwrdd a seld a silff-ben-tân: safwn yng nghanol anialwcher o y parlwr Cymreig, anialwch o anrhegion o'r lle yma a'r lle arall, o glustogau, a lluniau'r teulu, a phob math o geriach. Yr oedd meddwl am fyw yn yr ystafell yn hunllef arnaf, er y gwyddwn fod Mrs. Humphreys yn dalp o garedigrwydd. Ond erbyn heddiw, cliriwyd y llanastr: aeth yr anrhegion o Landudno a Lerpwl, o Bwllheli a Phenmaenmawr, i'r lloftydd, y mae'n debyg, a rhoed lluniau'r cefndyr a'r cyfnitheroedd a'r ewythrod a'r modrybedd oll ar furiau ystafelloedd eraill. Erbyn hyn, ar y silff-ben-tân, gosodwyd y llun o'm mam a'm tad a minnau, y llun hwnnw a dynnwyd yng Nghaernarfon pan oeddwn i tua chwech oed. Eistedd fy nhad i fyny fel procer, gan blethu ei ddwylo ar ei wasgod a chan agor ei lygaid fel petai'n ceisio gweld ei dalcen ei hun. Y mae fy mam hefyd yn annaturiol o stiff. Saif mor syth â phlisman wrth ochr fy nhad, a'i llaw dde ar ei ysgwydd a rhyw drem herfeiddiol yn ei llygaid. Siwt llongwr sydd amdanaf i, a safaf fel soldiwr tun wrth ochr fy nhad, fy ngwallt wedi ei wlychu dipyn a'i gribo i lawr ar fy nhalcen, fy nwylo'n dynn wrth fy ochrau, a golwg wedi sorri ar fy wyneb. "Attention," y mae'n debyg, oedd y gorchymyn a roed i'r soldiwr bychan hwn, a safodd yntau'n stond ac anfoddog am ennyd. Ar y silff-ben-tân yn y parlwr y cofiaf i'r llun hwn bob amser, a phan drowyd yr ystafell honno'n ystafell wely i'm Hewythr Huw, mawr fyddai'r hwyl a gâi ef pan ddigwyddai fy mam dynnu'r llwch oddi ar y silff. "Sut 'roeddat ti'n teimlo wrth orfod arestio Robat, Elin?" a "Gwylia rhag i'r waxworks 'na ddechra' toddi yn dy law di" a "Cymer ofal, Elin; mae hwnna'n lun go iawn, wel'di" a sylwadau tebyg a ddôi o enau f'ewythr. Ond câi fy mam dalu'r pwyth yn