Tudalen:O Law i Law.pdf/185

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ôl trwy gyfeirio at lun F'ewythr Huw ar y pared wrth ochr y ffenestr.

Deuthum â'r llun hwnnw hefyd gyda mi yma, a hongiwyd ef ar y mur acw. Oni bai i chwi gael gwybod ymlaen llaw mai F'ewythr Huw ydyw, prin yr adwaenech ef. Tynnwyd y llun yn Lerpwl pan benderfynodd F'ewythr Huw a Ben Lewis, ei bartner yn y chwarel, fynd i America i wneud eu ffortiwn. Aethent i Lerpwl am ychydig ddyddiau, pan fu streic yn y chwarel, i chwilio am long, ac un diwrnod, i lawr wrth un o'r dociau, troes Ben yn sydyn at f'ewythr.

"Miloedd ar filoedd o fìlltiroedd tros y môr, Huw," meddai.

"Y?"

"A 'fydd neb yn ein cofio ni, wel'di."

"Be' sy'n dy boeni di 'rŵan, Ben?"

". . . Ddim yn cofio sut siâp oedd ar ein hwyneba' ni na dim. 'Does gan yr hen wraig ddim llun ohona' i o gwbwl, fachgan. 'Falla' mai yn Merica y byddwn ni farw, wel'di, a 'fydd gan neb yn Llanarfon yr un syniad sut rai oeddan ni, ddim syniad yn y byd. 'Oes gan Robat ac Elin lun ohonat ti?"

"Nac oes, ddim un."

"Rhaid inni fynd i dynnu'n llunia', Huw. Ac mi postiwn ni nhw adra cyn diwadd yr wsnos."

Ond ni phostiwyd y lluniau adref. Darfu'r streic, a dychwelodd y ddau anturiaethwr y Sadwrn hwnnw, yn barod i ailgydio yn eu gwaith fore Llun. Dygasant y lluniau gyda hwy, a chafodd fy mam a'm tad, yn ôl a glywais droeon, lawer o hwyl uwchben yr un o'm hewythr. Gwylltiodd yntau a thaflu pump o'r hanner dwsin i'r tân. Ond cadwodd fy mam yr un a roddwyd iddi hi yn saff, ac ymhen rhai misoedd, heb yn wybod i'm hewythr, trefnodd i'r llun gael ei fwyhau, a'i osod yn y ffrâm ddu acw. Ceisiai F'ewythr Huw ei chymell yn bur aml i'w ddistrywio neu, o leiaf, i'w guddio, ond ni thyciai ei berswâd ddim.

"Pam ydach chi ddim yn licio'r llun acw, F'ewyrth Huw? "gofynnais iddo un diwrnod.

"Nid un fel 'na ydi d'ewyrth, wel'di. Gobeithio hynny beth bynnag. 'Welist ti'r fath swanc erioed? Colar big, tei crand ofnadwy, tsiêt fawr a styd aur ynddi hi, tsiaen ar