Tudalen:O Law i Law.pdf/186

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

draws fy ngwasgod, blodyn yn fy nghôt — be' goblyn oedd yn bod arna' i, John bach? 'Roedd 'na lot o swanc o gwmpas Ben Lewis yr adag honno, a phan aethom ni i'r lodging i baratoi ar gyfar tynnu'r llunia', mi allet daeru bod Ben ar gychwyn i briodas. 'Wnawn i mo'r tro o gwbwl ganddo fo, ac fe fu'n rhaid iddo gael rhoi benthyg colar a tsiêt a styd a thei imi. Diaist i, 'ron i'n teimlo mod i wedi gwneud fy ffortiwn cyn cychwyn i Mericia, fachgan! 'Fûm i 'rioed mor anghyffyrddus yn cychwyn i unman. A dyna'r tsiaen watch 'na ar draws fy ngwasgod i. Ben gafodd dynnu 'i lun gynta', ac ar ôl iddo orffan, dyma fo'n sefyll ar ganol yr ystafell i 'sbìo arna' i. 'Mi wnei di'r tro, Huw,' medda' fo ymhen tipyn, 'ond iti gael y blodyn 'ma yn dy gôt a'r tsiaen aur 'ma ar dy wasgod.' Ac mi wnaeth imi wisgo'r blodyn a'r tsiaen oedd ganddo fo, ac 'roedd o a'r dyn-tynnu-llunia' yn deud 'mod i'n edrach yn rêl gŵr bonheddig. 'Falla' 'mod i, ond 'ron i'n teimlo fel clown."

Y ddwy gadair, y lluniau hyn, yr hen liain pinc ar y bwrdd, y llyfrau a'r hen Feibl mawr ar y silffoedd gyferbyn â mi, y llestri rhosynnog yn y cwpwrdd acw yn y gornel — teimlaf yn bur gartrefol wrth edrych o gwmpas yr ystafell hon. Rhaid imi gadw draw o gyffiniau'r hen dŷ gymaint ag a allaf, a bodloni ar fy mywyd newydd yma hefo Mrs. Humphreys a'i merch fach, Gwen. Pan ddof adref o'r chwarel ddydd Llun, y mae'n debyg y bydd fy nhraed am fy nhywys ymlaen yn reddfol heibio i'r ystryd hon i gyfeiriad yr hen gartref, ond bydd yn rhaid imi ddysgu llwybr newydd iddynt, bellach.

Ni theimlwn yn drist yn yr hen dŷ wrth wylio'r dodrefn yn cael eu cludo ymaith; yn wir, yr oeddwn yn falch o weld y gwaith o'u chwalu'n dyfod i ben. Ond pan ddeuthum allan hefo Meri Ifans i gloi'r drws er mwyn rhoi'r agoriad yn ei gofal hi, daeth rhyw bwl ofnadwy o hiraeth trosof. Yr wyf yn ŵr gweddol gryf, a rhoes tair blynedd ar hugain o weithio yn y chwarel rym yn fy mreichiau, ond ni fedrwn yn fy myw droi'r agoriad yn y clo. Cwynai fy mam weithiau fod y clo braidd yn anystwyth, ond trown i'r agoriad iddi yn y nos yn berffaith rwydd, gan chwerthin am ei phen, Heddiw, myfi a gwynai am y clo.

Rhois yr agoriad i Meri Ifans, a gofynnais iddi fy ngadael