Tudalen:O Law i Law.pdf/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am ennyd wrthyf fy hunan o flaen drws y tŷ gwag. Gwelwn y J.D. mawr a naddwyd gennyf, yn hogyn, ar lechen y ffenestr, ac uwchlaw iddo, wydr rhwth y gegin ddigysur. Eisteddais am ennyd ar y llechen a syllu ar hyd llwybr y cefn. Nid oedd pwced wrth y feis na sebon na chadach ar silff ffenestr y gegin fach; aethai pob arwydd o fywyd ymaith. Ym mhen pellaf y tipyn gardd, yn barod ar gyfer y drol-ludw, wele'r pentwr o ysbwriel—papurau, ffrâm a gwydr toredig rhyw lun go ddienaid, hen fasged-deithio â'i gwellt wedi dechrau pydru, un neu ddau o deganau diwerth, sosban â thwll ynddi—fel broc môr wedi'r trai. Syllais yn hir ar y brwsh-esgidiau ar fin y pentwr, gan gofio fel y mynnai fy mam lanhau esgidiau fy nhad a minnau bob nos. Aml y bu hi'n ddadl rhyngom ar y pwnc, ond i ddim pwrpas: dychwelai fy nhad a minnau'n anfodlon i'r gegin "o'r ffordd". Noswaith ar ôl noswaith, deuai i'r gegin fach sŵn y brwsh ar yr esgidiau, ac edrychai fy nhad a minnau braidd yn anesmwyth ar ein gilydd, er y gwyddem nad oedd modd cymell fy mam i roi'r gwaith i un ohonom ni. Taniai fy nhad ei bibell yn ddieithriad pan ddeuai'r sŵn.

Codais oddi ar y llechen oer, a throi tua'r ddôr. Swniai fy nghamau'n drymion ar y llechi o dan fy nhraed, ac yn araf a phrudd yr agorais ac y caeais y ddôr. "Paid â chlepian yr hen ddôr 'na John," fyddai geiriau fy mam yn aml pan frysiwn o'r tŷ i rywle, ond heddiw caeais hi'n dawel a gofalus iawn. Rhywfodd, daeth y syniad i'm meddwl fod fy mam yn fy ngwylio ac yn gwrando am sŵn y glicied. Er fy mod i'n gapelwr mor selog, ni bûm erioed yn grefyddwr dwys fel fy nhad; ni feddyliais fawr ddim am anfarwoldeb a'r byd, os oes byd, tu draw i'r llen. Rhyw fyw o ddydd i ddydd y bûm, heb boeni am y problemau mawrion y byddai fy nhad a Mr. Jones yn sgwrsio mor ddifrifol yn eu cylch. Ond heddiw, pan godwn fy mawd oddi ar glicied y ddôr, gwyddwn fod fy mam yn clywed y sŵn.

Gwell imi gadw i ffwrdd o'r hen dŷ, bellach. Daw eraill i fyw ynddo, dodrefn newydd i'w ystafelloedd, lleni dieithr ar ei ffenestri, lleisiau a chamau gwahanol o'i gwmpas ef. Pe crwydrwn ar hyd lôn fach y cefn tuag at y ddôr, gwn y disgwyliwn glywed y drws yn agor a'm mam, a glywsai sẃn fy nhroed, yno i'm croesawu. Mor aml yr agorai'r