Tudalen:O Law i Law.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Be' 'newch chi hefo'r harmonia 'na, John Davies?"

"'Wn i ddim, wir, Meri Ifans. 'Does gen' i ddim rhyw lawer o ddileit yn y peth, fel y gwyddoch chi." "Sylvia Jane, hogan Dic Steil, oedd yn gofyn imi ofyn i chi."

"'Fedar yr hogan ganu'r peth, deudwch?" gofynnodd Dafydd Owen.

"'Wn i ddim, wir. 'Roedd ganddyn' nhw biano fawr yno nes i Dic fethu talu'r rhent a gorfod 'i gwerthu hi. Mi glywis i na chafodd o fawr amdani hi, chwaith. Cwyno 'roedd Sylvia Jane fod y parlwr ffrynt yn wag iawn hebddi hi, a meddwl y basa' harmonia 'run fath â hon . . ." "'Roeddwn i'n rhyw feddwl, Meri Ifans, y liciwn i roi'r hen harmoniym i'r capal. Mi wnâi'r tro yn y festri." "Yn gampus, 'machgan i," ebe Ifan Jones. "Ac mi fasem ni'n ddiolchgar iawn amdani hi, yn ddiolchgar iawn. Mae'r hen gapal 'na mor oer yn y gaea' fel hyn, a 'does dim ond yr organ yn ein cadw ni rhag mynd i'r festri ar noson waith. 'Roeddwn i bron à rhynnu yn y seiat neithiwr, oeddwn, wir . . . Wel, bobol, mae'n rhaid imi 'i throi hi. Bora 'fory ddaw, Dafydd Owen!"

"Ia, Ifan Jones . . . ia, wir."

Maent i gyd wedi mynd o'r diwedd. Dyma'r tro cyntaf imi fod fy hunan bach yn yr hen dŷ, ac y mae arnaf i ofn. Nid ofn yr unigrwydd a'r gwacter, ond ofn y mân atgofion sy'n gyrru ias drwy fy nghefn. Dyna'r hen ganhwyllbren yna, y ganhwyllbren y byddai fy mam yn ei gosod yn barod imi bob nos. Nid ar y bwrdd y dylai hi fod, ond ar y pentan yn barod i'w goleuo o'r tân. Ac fe ddylai un fatsen fod yn pwyntio allan o'r blwch, rhag ofn y bydd eisiau golau yn y nos. Ni ddylai'r gwêr fod yn drwch ym môn y gannwyll chwaith, na'r llwch na'r darnau o fatsis llosgedig orwedd yng nghwpan y ganhwyllbren. Rhaid imi gadw'r hen ganhwyllbren yna; oes, y mae'n rhaid imi gadw honna.

Wel, y mae'n well i minnau "'i throi hi," chwedl Ifan Môn. Y mae'n bur debyg y daw rhai pobl yma'n o gynnar yfory i drio prynu pethau. Beth ydyw hi heddiw? Dydd Mercher, wrth gwrs. Rhwng yfory a dydd Gwener a bore