Tudalen:O Law i Law.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II—Y MANGYL

Yr hen Feri Ifans a wnaeth frecwast imi wedi'r cwbl. Cyn gynted ag y gwelodd hi bluen o fwg yng nghorn y simdde, yma â hi ar garlam.

"Dŵad â'r ddau wy yma i chi, John Davies. Wya' ffres Ella'r ferch 'cw."

Gwyddwn nad oedd dodwy wyau yn un o ragoriaethau Ella ond bod ganddi, yng nghefn ei thŷ, hanner dwsin o ieir tewion, braf, a cheiliog powld a oedd yn fwrn ar yr ardal, yn enwedig ar fore Sul.

"Ella isio mangyl ac yn gofyn imi ofyn i chi . . . Sut byddwch chi'n licio'ch wy, John Davies? Yn galad?"

"Cymhedrol, Meri Ifans, os gwelwch chi'n dda. Rhyw bedwar munud."

"Ella'n gofyn imi ofyn i chi a geiff hi'r siawns cynta' ar y mangyl . . . 'Panad go wan, yntê, John Davies?" "Diolch . . . I'r dim, Meri Ifans."

"Fel yna y bydda' inna'n licio 'mhanad hefyd. 'Rown i ddim thanciw am de fel y bydd Jim, gŵr Ella, yn 'i yfad o. Yn ddu fel triog, John Davies. A fynta'n cwyno hefo'i 'stumog hefyd! Ond dyna fo, un peth 'ma ydi Jim, fel y