Tudalen:O Law i Law.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddyddiau felly yn ei hanes. Y mae'n debyg mai ei gorff bychan a'i goesau ceimion a'i drowsus pen-glin a roes fod i'r su. Neu efallai i Jim neu rywun arall o gwmni'r Red Lion ei alw'n "jockey "o ran hwyl ryw noson.

"Tyd i mewn, Ned," ebe Jim. "Dŵad i nôl rhyw fangyl ne' rwbath, John Davies."

"Mangyl," ebe Ned.

"Yn y cwt yn y cefn y mae o, Jim,"meddwn innau. "Ond prin y medar dau ohonoch chi fynd â fo."

"Tyt! Mi garia Ned o ar 'i gefn, John Davies."

"Ar 'y nghefn, Jim," ebe Ned, gan roi tro sydyn ar ei ben yn werthfawrogiad o ffraethineb ei gyfaill.

"Mae 'na olwynion dano fo,"meddwn innau, "ond unwaith yr ewch chi i'r lôn, mae arna' i ofn mai tipyn o gamp fydd 'i wthio fo, hogia'."

"Diawl, mi gei roi'r gasag wrth 'i ben o, Ned," meddai Jim.

"Y gasag wrth 'i ben o," ebe Ned.

"Tyd yn dy flaen, was," ebe Jim wrth glywed llais Ella rywle yn y cefn. "Tyd i yrru'r Irish Mail."

"Gyrru'r Irish Mail," ebe Ned, a'i ben yn rhoi tro sydyn eto.

Euthum innau i ateb cnoc ar ddrws y ffrynt. Llythyr oddi wrth F'ewythr Dic o'r Sowth yn egluro'n fwy manwl na'r teligram pam na allai ddod i angladd ei chwaer. Llythyr digalon iawn. Y mae'n gaeth hefo cric-cymalau ers misoedd, ac ef a'i ddau fab allan o waith ers pedair blynedd bellach. "Piti imi adael y chwarel o gwbl," medd y llythyr. "Meddwl gwneud fy ffortiwn, wel'di, ac erbyn hyn y mae'r lle yma wedi mynd i'm gwaed i. Ond heddiw, cefais bwl ofnadwy o hiraeth, ac mi griais fel plentyn, fachgen. Digwydd cofio fel y byddai Elin druan yn prynu samon imi ar y slei ers talwm, pan oeddwn i'n hogyn gartref. 'Roedd fy mam yn gynddeiriog yn erbyn unrhyw beth allan o dun, wel'di. Diar, fel y mae'r byd wedi newid! Mae Howel (y bachgen hynaf) wedi troi'n Gommunist rhonc, a heb fynd yn agos i gapel o fath yn y byd. Ac mae Ifan wedi priodi Saesnes, fel y gwyddost ti, ac yn gwrthod siarad gair o Gymraeg hefo'r ferch na'r bachgen.

"Ydi, mae'r byd yn newid, John bach, ond nid er gwell.