Tudalen:O Law i Law.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fwrdd bach yn y parlwr ag ar ei ganol gadach sidan mawr, gwyn. Yn ôl arferiad yr ardal, cerddodd y dyrfa i mewn fesul un ac un a rhoi chwech neu swllt ar y cadach sidan. Do, fe gliriwyd holl dreuliau'r angladd felly, ac yr oedd dwybunt yn sbâr.

Clywais, droeon, gan fy mam hanes y noson honno. Wedi i'r ffrindiau a'r dieithriaid i gyd ymadael, eisteddodd fy nain a'm mam wrth ffenestr fach y gegin gefn a syllu'n hir draw i'r mynydd a'r chwarel. Gwasgai fy nain y Testament Groeg bach yn ei dwylo, a'i llygaid pell fel pe'n chwilio am Y Bonc Uchaf lle gweithiasai fy nhaid yn y chwarel. "'Wn i ddim be' wnawn ni, wel'di," meddai o'r diwedd, "ond 'dawn ni ddim ar y plwy' pe bai raid inni lwgu, Elin." Cododd fy mam i ateb cnoc ar ddrws y ffrynt . . . "Go lew, wir, thanciw. 'Ga' i ddŵad i mewn?" ebe llais main, braidd yn wichlyd, a daeth gwên a deigryn i lygaid fy nain.

Edward Jones - 'Ned Pwyswr' yn y chwarel, a 'Ned Go Lew' ar dafodau anystyriol yr ardal a oedd wrth y drws. Collasai Edward Jones ei fraich dde mewn damwain yn Nhwll Dwndwr, un o dyllau mwyaf y chwarel, rai blynyddoedd cyn hynny. Cafodd waith wedyn yng ngwaelod y chwarel i bwyso'r wagenni o rwbel ar eu ffordd i Domen y Llyn. Efallai mai ei anffawd ei hun a wnaeth Edward yn rhyw fath o noddwr answyddogol yn yr ardal. Pan ddygai damwain neu afiechyd eu trallod i deulu tlawd, dyna Edward Jones yn tynnu ei lyfr bach glas o'i boced ac yn mynd o ddrws i ddrws drwy'r pentref. Ni bu neb erioed mor gynnil â'i eiriau. Cnoc ar y drws, ac yna, cyn i neb gael cyfle i'w gyfarch, "Go lew, wir, thanciw. 'Ga' i ddŵad i mewn?" Ac yr oedd croeso iddo ymh'le bynnag yr elai, oherwydd gwyddai pawb fod gwir angen ar rywun cyn yr ymgymerai Edward Jones â'r gorchwyl o gasglu arian iddynt. Eisteddai ar gongl y bwrdd ar unwaith, a'i bwt o fraich ar ddalen agored y llyfr glas. Ysgrifennai enw'r gŵr neu'r wraig yn llafurus, a blaen ei dafod allan yn anesmwyth rhwng ei ddannedd. Ac ef ei hun a benderfynai'r swm . . . "Tair ceiniog, William Davies." Neu "Chwe cheiniog, Jane Ifans, os medrwch chi 'i fforddio fo." Ac wedi cael yr arian, i ffwrdd ag ef heb wastraffu gair nac