Tudalen:O Law i Law.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wna' i hynny trosto fo. Sgwenna rywbath iti gael rhyw gymaint o farcia'."

Ond ni theimlai Defì fod ganddo unrhyw wybodaeth y dylai'r byd gael cyfran ohoni, a bodlonodd ar dreulio gweddill yr amser yn cnoi ei ewinedd ac yn cicio Emrys a minnau o dan y bwrdd.

"Mi wneith hwn imi danio 'mhibell," meddai Ifan Jones wrth blygu'r papur a'i daro ar y pentan. Yna, ymhen ychydig, "'Waeth iti fynd adra ddim, am wn i." Ac i ffwrdd â Defì gan sibrwd rhywbeth am "gic-tun wrth Siop Gongol, was" yn fy nghlust.

Daeth yr awr i ben yn fuan wedyn, a dechreuodd Emrys a minnau hel ein papurau at ei gilydd. Clywais chwerthin isel, dwfn, o gyfeiriad y tân, a chefais gip ar Ifan Jones yn cuddio rhyw bapur yn frysiog yn ei boced. Gwyddwn drannoeth mai papur Defì Preis ydoedd, oherwydd daeth fy nhad â'r stori o'r chwarel am Ifan Môn yn mynd o gwmpas y bonc i ddangos ei lun i bawb.

Y mae un llun arall ar fur y llofft, llun dau ŵr yn cofleidio'i gilydd ar ganol ffordd lydan, braf, rhwng dolydd brieision. Gŵr ifanc yw un o'r dynion, a'i wisg werdd yn garpiau i gyd; henwr yw'r llall ac amdano wisg hardd o borffor disglair. Cefn y llanc sydd atom, ond gwelwn wyneb caredig a llawen yr henwr. O dan y llun, mewn llythrennau aur, y mae'r geiriau: "And he arose, and came to his father. But when he was yet a great way off, his father saw him, and had compassion, and ran, and fell on his neck, and kissed him. And the son said to the father, Father, I have sinned against heaven, and in thy sight, and am no more worthy to be called thy son."Adroddodd fy mam stori'r Mab Afradlon wrthyf droeon cyn imi fynd i gysgu, ond pan ofynnwn gwestiwn am y geiriau a oedd dan y llun, y cwbl a gawn oedd, "O, hen Saesneg gwirion ydi hwnna, wel'di." Gwelais y geiriau hyn mor aml nes eu dysgu ar fy nghof, ond nid oedd ynddynt lawer o ystyr na miwsig imi, er eu bod yn syml a swynol. Pethau estronol a dieithr oeddynt, geiriau pell oddi wrth yr iaith a siaradwn ac y meddyliwn ynddi. A rhywfodd, yr oeddynt yn amharu ar y llun, yn tynnu fy meddwl oddi wrth y llanc a'r henwr a'r ffordd at ddieithrwch iaith na ddeallwn mohoni. Hyd yn oed wedi