Tudalen:O Law i Law.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

imi ddeall ystyr y geiriau, yr oedd rhyw ysfa o hyd yn fy llygaid i beidio â chymryd sylw ohonynt fel pe bai fy meddwl yn erbyn unrhyw gyfaddawd â'r "hen Saesneg gwirion "a flinai fy mam. A heddiw, pan ddarllenodd rhywun y geiriau allan ag acen Gymraeg gref – Ia, Sylvia Jane, merch Dic Steil oedd hi – teimlwn yn annifyr ac yn rhyw euog braidd. Ni fedrwn egluro'r teimlad hwnnw, gan nad oes gennyf i ddim yn erbyn y Sais na'i iaith, am a wn i. Yn wir, yn Saesneg y mae rhai o'r llyfrau gorau a ddarllenais i erioed-y llyfrau a adawodd F'ewythr Huw, brawd fy nhad, ar ei ôl, er enghraifft. Ond ni ddeallai fy nhad na'm mam air o Saesneg, ac iddynt hwy rhan o swanc un neu ddau o stiwardiaid y chwarel neu wraig y Banc ydoedd, a rhan hefyd o daeogrwydd ambell un a frysiai i gynffonna i ddieithriaid a ddôi i'r ardal. Ac yr oedd y rhai a fedrai dipyn o Saesneg bron yn siŵr o fod yn eglwyswyr!

Beth a wnaf i â'r pedwar llun, ni wn i ddim. Ni chymerodd neb un sylw ohonynt heddiw-dim ond Sylvia Jane, a welodd gyfle i ddangos ei Saesneg. Y mae arnaf flys garw i dynnu'r Dystysgrif Teilyngdod o'i ffrâm a'i gyrru i Defì Preis o ran hwyl. Tybed a gofiai o'r noson honno yn nhŷ Ifan Jones? Mae Defi, erbyn hyn, yn cadw siop Painter and Decorator tua Lerpwl, a'i dad, bob tro yr af ato i dorri fy ngwallt, yn uchel ei gloch am lwyddiant ei fab. Ond deil Preis i boeni tipyn o hyd ynghylch cyflwr ysbrydol Defì; nid ydyw'r peintiwr llwyddiannus yn llawer mwy o gapelwr nag oedd y "cnonyn bach" y cydiai Ifan Jones ym môn ei glust. Tyn ar ôl ei dad yn hynny o beth. Rhyw un nos Sul o bob pedair y gwelwch chwi William Preis yn y capel, a rhaid i chwi fod yn llygadog i'w ganfod y nosweithiau hynny. Sleifia i mewn yn ystod yr emyn cyntaf, a sleifia allan tua therfyn yr emyn olaf. Un funud, nid oes neb yng nghongl y sedd bellaf, yr un ar y chwith i ddrws y capel; y funud nesaf, â bawd un llaw am yr oriawr ar draws ei wasgod a'i law arall yn dal y llyfr emynau i fyny'n uchel ac eofn, fe saif William Preis yno, yn canu ei hochr hi. Ac yn ystod yr emyn olaf, os digwydd i chwi daflu golwg i gyfeiriad congl y sedd bellaf, gwelwch William Preis yn gwthio'i frest allan ac yn edrych i fyny i'r to fel pe'n dilyn sŵn ei lais â'i lygaid bychain, dyfrllyd;