Tudalen:O Law i Law.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond y funud nesaf, fel petai'r llawr wedi ei lyncu, nid oes neb yn y gongl honno. Ugeiniau o weithiau y bûm i'n ceisio gweld William Preis yn llithro i'w sedd ar ddechrau'r gwasanaeth neu'n diflannu ohoni tua'r diwedd, ond ni chofiaf imi lwyddo erioed. Pam y sleifia i mewn ac allan fel hyn, ni wn; prin y gŵyr William Preis ei hun, y mae'n debyg. Fel un "ffond o'i lasiad," efallai y teimla braidd yn euog yng nghwmni pobl barchus y capel. Beth bynnag, yr wyf yn siŵr na chafodd neb sgwrs ag ef yng nghyntedd y capel ar y ffordd i mewn neu allan, dim ond ei weld yno, yng nghornel ei sedd, yn sefyll fel canwr ar lwyfan drwy bob emyn, ac wedyn, yn ystod y bregeth, yn plethu ei freichiau ac yn edrych yn syth i wyneb y pregethwr â rhyw hanner gwên ar ei wyneb, ac yn nodio'n gall bob hyn a hyn. Bu llawer pregethwr dieithr yn holi Ifan Jones neu un arall o'r blaenoriaid amdano ar ôl y gwasanaeth nos Sul.

"Pwy oedd y dyn bach 'na yn y sedd olaf un?"

"'Rhoswch chi, pwy sy gynnoch chi 'rŵan? William Preis, mae'n debyg."

"Dyn bach mewn siwt frown, a modrwy fawr o gwmpas 'i dei. Mwstash bach wedi'i gyrlio. Wyneb coch."

"Ia, a thrwyn coch hefyd! William Preis, y barbwr."

"'Roedd o'n gwrando'n astud iawn, yn astud dros ben. Ond mi aeth allan cyn y Seiat."

Y mae'n bur debyg i ambell bregethwr gredu ei fod yn cael dylanwad aruthrol ar ryw wrthgiliwr pryderus a wrandawai mor eiddgar yng nghongl y sedd olaf, a synnu'n ddirfawr nad arhosai'r dychweledig i'r Seiat. Ond pa mor rymus bynnag y bo'r bregeth, sleifio allan yn ystod yr emyn olaf a wna William Preis.

Pan af i'r siop i dorri fy ngwallt, am bregethwyr a phregethau y bydd y sgwrs. Gan fy mod i'n gapelwr go selog ac yn Ysgrifennydd yr eglwys hefyd, cred William Preis mai am grefydd y dylai siarad â mi, er nad oes ganddo fwy o ddiddordeb mewn pregethu nag mewn seryddiaeth, am a wn i. Yr oeddwn i yn y siop un noswaith yr wythnos ddiwethaf, ac yr oedd yn amlwg y teimlai William Preis yn o anghyffyrddus; gan fod Jim, gŵr Ella, a Ned Stabal yno yr un pryd. Gwyddwn, a gwyddai'r ardal hefyd, fod Jim