Tudalen:O Law i Law.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddeudis i 'mod i'n barod i fetio nad wyt ti ddim yn cofio be' oedd testun y town-crier 'na oedd gynnoch chi Sul dwytha'."

"Mi fetia' inna'," ebe Ned.

"O? Be' feti di, Jim?"gofynnodd y barbwr.

"Peint," ebe Jim.

"Dau beint," ebe Ned.

Edrychodd William Preis fel petai'r gair "peint" yn un go ddieithr iddo, ac yna, wedi i'w ystyr wawrio ar ei feddwl, dechreuodd gecian chwerthin a wincian arnaf i awgrymu bod y cyfeillion ysmala hyn yn tynnu ei goes. Gwyddwn innau fod y cymdeithion diddan yn aros iddo gau'r siop cyn mynd ag ef am "un bach" i'r Red Lion. A gwyddwn hefyd y byddai William Preis yn sleifio i mewn i'r dafarn gan adael Jim a Ned rywle yng nghymdogaeth y drws yn methu'n glir â dyfalu i "b'le gythral" yr aeth y barbwr, Ond, wedi iddynt fynd i mewn ac at y bar, byddai William Preis yno yn eu haros. Fe sleifiai allan hefyd yn ystod y rownd olaf-os daliai ei goesau'n ddigon chwim.

Y mae'n debyg na ŵyr William Preis ddim am yr athrylith artistig a ddangosodd ei fab yn yr arholiad hwnnw ar Matthew I-X. Bygwth yn unig a wnâi Ifan Jones wrth addo galw yn nhŷ'r barbwr i roi'r wialen ar gefn yr arlunydd, a gwn, er i'w dafod swnio mor llym ag erioed ac er iddo ddal i binsio'i glust yn bur rheolaidd, fod gan Ifan Môn, o hynny ymlaen, ryw barch slei at Defi Preis. Ac ni synnwn i ddim nad ydyw'r lluniau a dynnodd Defi Barbwr y noson honno ymysg trysorau mwyaf cysegredig Ifan Jones erbyn hyn. Gwn fod pob pregethwr dieithr a fydd yn aros yn ei dŷ yn cael eu gweld, beth bynnag, a'i fod yn eu cadw, er mwyn iddynt fod yn berffaith saff, tu mewn i glawr yr hen Feibl mawr lle mae hanes geni a marw ei dadau a'i gyndadau.

Galwodd Ifan Jones yma heno tua chwech i fynd â'r harmoniym i festri'r capel. Daeth Dafydd Owen a dau o ddynion eraill gydag ef i roi help llaw — Lewis Roberts, y codwr canu, a Llew Hughes sy'n canu'r organ. Euthum innau gyda hwy, rhag ofn bod y baich yn un go drwm. Rhoddwyd yr harmoniym i lawr ar ochr y ffordd ym mhen y stryd, dipyn uwchlaw tŷ Ella, a phwy a ddaeth heibio, yn fawr eu hwyl, ond Jim a Ned Stabal. Rhoes Jim ei gap i Ned, ac wedi gwthio Lewis Roberts o'r neilltu, cododd glawr