Tudalen:O Law i Law.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gysgu, am a wn i. Âi i fyny i'r pulpud cyn dechrau pob gwasanaeth, a tharo papur bach ar lyfr emynau'r pregethwr. Pan oeddwn yn hogyn, teimlwn y rhoddai hyn ryw urddas iddo, gan mai ef, ac nid y pregethwr, a ddewisai'r tonau i'r cyfarfod. Ond deuthum i wybod, ymhen amser, fod rheswm arall tros hyn; rhyw ugain o donau a wyddai Huw Ffowcs, ac aeth yn draed moch fwy nag unwaith pan fu raid iddo drio canu rhyw dôn a oedd yn o ddieithr iddo.

Euthum i gysgu'r noson honno yn fy ngweld fy hun yn denu pob math o gerddoriaeth bêr allan o'r harmoniym, yr un fath â'r dyn hwnnw o Lerpwl a ddaeth i ganu'r organ newydd yn y Capel Mawr ryw fis cyn hynny. Saith oed oeddwn, ac ni ddaeth i'm meddwl ifanc y byddai'n rhaid wrth amynedd diderfyn a llawer llai o gicio pêl a chwarae "knock-doors." Gwyddwn fod Teddie Tŷ Crwn ac Albert Holly Bank yn cael gwersi ryw ddwywaith bob wythnos, ond yr oeddwn i'n wahanol iddynt hwy. Fe wnâi un wers, a honno'n wers unwaith ac am byth, y tro i mi.

Trannoeth, euthum i gyfarfod fy nhad ar ei ffordd adref o'r chwarel.

"Be' ddeudodd o, 'nhad?"

"Be' ddeudodd pwy?"

"Ond Huw Ffowcs, debyg iawn."

"O! Deud y daw o acw heno."

"Heno? 'Faint o'r gloch, 'nhad?"

"Tua saith, medda' fo."

"Mi fyddi di'n canu'r organ yn y capal reit fuan, John bach," meddai Ifan Jones.

Hir fu'r ymaros tan saith o'r gloch. Yr oedd hi'n noson go arw a'r glaw yn taro ar y ffenestr. Tybed a ddeuai trwy'r ddrycin? Rhoes fy mam lyfr lluniau imi, ond llithrai fy llygaid o'i ddalennau i syllu i'r tàn. "Saith o'r gloch ddeudodd o, yntê, 'nhad?"

"'Faint o weithia' mae isio imi ddeud yr un peth wrthat ti, hogyn? "

"'Faint ydi hi 'rŵan?"

"Hannar awr wedi chwech. 'Ddaw o ddim am hannar awr arall. Sbia ar y llunia' 'na, wir."

"'Ydi hi'n dal i fwrw, 'mam?"

"Ydi, dipyn, wir. Ond mae hi'n well, John bach."