Tudalen:O Law i Law.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon


IV—Y GADAIR

Heddiw eto, ddydd Gwener, yr hen Feri Ifans a wnaeth damaid o frecwast imi. Wedi imi gynnau tân a tharo'r llestri ar y bwrdd, euthum allan i lenwi'r tegell wrth y feis. Clywn rywun yn ysgwyd y ddôr, ac yna'r llais uchel, gwichlyd:

"Agorwch, John Davies. Fi sy 'ma."

Wedi imi agor y ddôr, cipiodd y tegell o'm llaw ac i ffwrdd â hi i'r tŷ. Pan ddilynais hi a dechrau cynnig help llaw hefo hyn a'r llall, gwthiodd fi i'r gadair-siglo gan orchymyn imi aros yno'n dawel nes bod y brecwast yn barod. "'Fydda' i ddim yn licio hen ddynion o gwmpas y tỳ. Pan oedd William druan yn fyw, mi fydda'n cymryd yn 'i ben weithia' i gynnig golchi llestri ne' ysgwyd matia'. Ond mi fedrwn i ddweud, diolch i'r Nefoedd, pan fuo fo farw, na fu raid iddo fo blicio tatws na golchi lloria' na dim byd y dyla'r wraig ac nid y gŵr 'i 'neud. 'Roedd o'n gweithio'n ddigon calad yn yr hen chwaral 'na i haeddu tawelwch a gorffwys pan ddôi o adra. William druan, oedd, neno'r Tad! Un o'r gweithwyr gora' fuo'n hollti llechan erioed,