Tudalen:O Law i Law.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sy'n 'u gneud nhw yn cymryd mantais ar bobol sâl. A 'does gan Susan druan, mwy na finna', ddim modd i dalu arian mawr iddyn' nhw. 'Faint fydd 'i phris hi, John Davies?"

"Mil o bunnau," meddwn, gyda winc ar Wil, hogyn Jim ac Ella, a sleifiasai i mewn i geisio cael dimai o groen ei nain cyn mynd i'r ysgol. "'Wyt ti eisio ennill ceiniog, Wil?"

"'Rargian, ydw'," ebe Wil.

"Hwda, ynta'."

Poerodd Wil ar y geiniog, gyda winc ar ei nain, cyn ei tharo yn llogell ei drowsus.

"Mi wyddost am y gadair ar olwynion sy'n y parlwr?"

"Gwn."

"'Wyt ti'n meddwl y medri di 'i gwthio hi?"

"I gwthio hi, medra'!"

"Dos â hi allan drwy ddrws y ffrynt a gwthia hi i fyny'r stryd a thrwy London Row i dŷ Samuel Roberts, Lake View."

"Tŷ Owi?"

"Ia, tŷ Owi," ebe'i nain, "a dywed ti wrth fam Owi fod John Davies yn 'i rhoi hi'n bresant i dad Owi, a bod John Davies hefyd yn gobeithio y bydd tad Owi yn gwella'n reit fuan. A dywed ti wrth fam Owi fod dy nain am ddŵad i fyny yno rywdro heno . . ."

Ond yroedd Wil yn y parlwr erbyn hyn, ac ymhen ychydig eiliadau, clywem ei sŵn yii agor drws y ffrynt. Aeth Meri Ifans a minnau yno i'w gychwyn ar ei daith, ond prin yr oedd angen hynny gan ei fod yn gwthio'r gadair yn hynod araf a gofalus. Troesom, ein dau, yn ôl i'r tŷ, ond cydiodd Meri Ifans yn fy mraich a'm harwain yn ôl i'r drws.

"'Roeddwn i'n meddwl, y cena' bach," ebe hi, gan daflu golwg digllon i fyny'r stryd. Yr oedd Wil, bellach, yn mynd 'fel cath i gythraul', a rhyw ferch fach y rhoddasai reid iddi yn sgrechian ' Help' nerth ei phen.

"Samuel Roberts druan!" ebe Meri Ifans pan aethom yn ôl i'r gegin. "Mae o'n gorfod diodda'n arw. Dyn cymharol ifanc hefyd. 'Rhoswch chi, 'dydio fawr hŷn nag Ella — rhyw bump a deugain faswn i'n ddeud."

"Strôc, yntê?"

"Ia, druan. Dau o blant bach hefyd. 'Dydio ddim fel 'tae o'n gwella rhyw lawer, er 'i fod o'n medru cropian o