Tudalen:O Law i Law.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwmpas y tŷ. Mi fydd y gadair yn fendith fawr iddo fo, John Davies, yn fendith fawr iawn."

"Bydd, gobeithio. Sut mae hi arnyn' nhw fel teulu?"

"Go galad, mae arna'i ofn. Chwara' teg i Susan, mae hi'n mynd allan i olchi bron bob dydd i rwla. Sut y mae hi'n medru, a chadw'r ddau o blant mor lân a del, dyn a ŵyr. Mae hi'n biti a fynta'n grefftwr mor dda — un o'r dynion gora' fuo ganddo fo 'rioed, medda' Huw Saer. Ond fel 'na mae hi, John Davies; mae Rhagluniaeth yn dywyll iawn, ond ydi . . .?"

Tra oedd Meri Ifans wrthi'n golchi'r llestri yn y gegin fach, eisteddais innau wrth y tân a llanw o atgofion yn llifo i'm meddwl. Atgofìon am F'ewythr Huw, y tirionaf a'r cywiraf o ddynion.

Cofiwn y noswaith o wanwyn y daeth atom i fyw. Buasai'n lletya cyn hynny ym mhen uchaf y pentref, gan alw i'n gweld ddwywaith neu deirgwaith bob wythnos. Ni alwai heb ddwyn ychydig o dda-da neu degan neu lyfryn yn anrheg imi, ac yr oedd ganddo hefyd nifer o driciau hefo llinyn a matsis y mynnwn iddo'n dangos imi bron bob tro y deuai i'r tŷ. Dyn cymharol fyr, tenau, ifanc yr olwg, sionc ar ei droed, ydoedd F'ewythr Huw, bob amser yn llawn chwerthin. Y syndod oedd iddo aros yn hen lanc, ac ymhlith fy atgofion cyntaf amdano y mae'r ateb a roddai beunydd i'm mam pan ddechreuai hi ei boeni ar y pwnc — "Wel, Elin bach, 'tae 'i gwallt hi heb ddŵad i ffwrdd yn fy llaw i, 'fallai y baswn i wedi'i phriodi hi." Fe fuasai'n canlyn rhyw ferch tua Chaernarfon am gyfnod, ond wedi iddo ddarganfod mai gwallt-gosod oedd y llywethau aur ar ei phen, troes 'fewythr yn ôl i'w lety a'i lyfrau a bodloni ar ei fyd dibriod. Tynnid ei goes yn arw tua'r chwarel, wrth gwrs, ond ni wnâi ond taflu ei ben i fyny a'i wyneb yn wên ì gyd. Mwynhâi y digrifwch gymaint à neb, a buan y peidiodd y tynnu-coes.

A mi'n hogyn, awn am dro hefo F'ewythr Huw yn aml iawn. Crwydrem hyd lan Afon Lwyd neu ar fin y llyn neu i fynv drwy'r coed i Fryn Llus. Yr oedd ef yn ddyn a minnau'n ddim ond hogyn, ond gallech dyngu mai dau fachgen ryw naw oed oeddem. Rhedai f ewythr yn yyllt o'm blaen ger glan yr afon, syrthiai ar ei hyd weithiau i