Tudalen:O Law i Law.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymryd arno saethu Indiaid Cochion, safai ar un droed ar garreg lithrig yng nghanol Rhyd-yr-Hafod gan wneud pob math o ystumiau yno, sleifiai drwy wrych i chwilio am nythod, dringai goeden er mwyn hongian gerfydd ei draed o un o'r canghennau – yn wir, teimlwn weithiau fod y gŵr deugain oed hwn yn llawn ieuangach na mi. Ambell brynhawn Sadwrn, âi â mi cyn belled â Chaernarfon, a diwrnod rhyfedd o hapus fyddai hwnnw. Daliai fy mam, wrth gwrs, fod f'ewythr yn fy nifetha'n lân, a châi ef siars ganddi, pan adawem am y trên, i beidio â phrynu melysion a phob math o 'hen geriach' imi yn y dref. "Cofia di, Huw, "fyddai ei geiriau olaf yn ddieithriad, "fi geith y drafferth hefo fo os daw o adra'n sâl heno." Ysgydwai f'ewythr ei ben yn ddwys a chymerai fy llaw i'm harwain yn araf a difrifol i lawr y stryd. Cerddwn innau wrth ei ochr fel pe bawn ar fy ffordd i angladd yn hytrach nag i'r dref. Cyn gynted ag y troem i'r Stryd Fawr, gollyngwn fy ngafael yn ei law a thaflai yntau winc arnaf gan ymbalfalu ym mhoced-gefn ei drowsus. Tynnai geiniog allan a'm gyrru o'i flaen i Siop y Gongl i brynu "rhwbath i'w gnoi yn y trên, 'r hen ddyn."

Ni wn faint o arian a wariai f'ewythr yn y dref ar brynhawn Sadwrn fel hyn, ond gwn na fyddai raid imi ond taflu golwg hiraethus at rywbeth mewn siop neu yn y farchnad i yrru ei law ar unwaith i boced-gefn ei drowsus. Fel rheol, aem o gwmpas y siopau i ddechrau, f'ewythr yn prynu imi bob math o ddanteithion ac o 'hen geriach', chwedl fy mam. Wedyn, i lawr â ni at y Cei i edrych ar y cychod ac i wrando ar storïau ambell hen forwr. Byddai f'ewythr yn sicr o dynnu sgwrs â rhyw hen longwr ar un o seddau'r Cei, oherwydd yr oedd yn wrandawr heb ei ail. Agorai ei lygaid gleision fel petai'n clywed yr hanesyn gorau a ddaethai i glust dyn erioed; rhoddai dro sydyn yn ei ben hefyd ar ddiwedd pob cymal o'r stori, ac arni oedd ei "'Rargian fawr!" neu ei "Esgob annwl!" Gloywai trem un hen forwr bob tro y gwelai f'ewythr a minnau yn agosáu ar hyd y Cei. "'Rŵan am domen o glwydda'," sibrydai f'ewythr wrthyf cyn cyfarfod yr hen frawd tafodrydd . . ."'Rhoswch chi, 'ddeudis i'r stori honno am y Ciaptan yn dringo'r mast i daflu'r currants i'r pwdin reis?" . . Ac eisteddem ar y sedd