Tudalen:O Law i Law.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

araf am wythnosau lawer, ond bu raid iddo, yn y diwedd, ufuddhau i orchymyn y meddyg ac aros gartref. Crwydrai hyd y pentref ar ei ffon, gan ymddangos mor llon ac mor ddireidus ag erioed, a phan alwai yn ein tŷ ni, uchel fyddai ei chwerthin. Ond nid aem am dro hyd fin Afon Lwyd mwyach, ac ni saethai f'ewythr Indiaid Cochion na hongian fel mwnci ar goeden yn y byd. Yn wir, rhyw chwarter milltir fyddai'r tro, ac yna gorffwysai cyn ymlwybro'n ôl yn araf a llesg. Cafodd fy nhad gryn drafferth i'w gymell i adael ei lety, ond ildiodd o'r diwedd, a chofiaf yn dda y noswaith o wanwyn y daeth i fyw atom.

Yr oeddwn i yn chwarae pêl o flaen y tŷ.

"Well done, John bach!" meddai llais f'ewythr o'r tu ôl imi pan roddais gic go dda i'r bêl. Pan ddaeth hi ataf eilwaith, rhoddais y bêl wrth ei droed ef.

"'Rŵan am goal," meddai, gan bwyso ar ei ffon a symud yn ôl gam neu ddau. Ond heibio i'r bêl yr aeth ei droed, a syrthiodd yntau ar ei wyneb yng nghanol y stryd. Brysiodd fy nhad ato i'w gynorthwyo ac i'w arwain i mewn i'r tŷ. Dilynais innau hwy, ac yr oedd pryder yn llond fy llygaid.

"Paid ag edrach fel brych, John bach," meddai f'ewythr wedi iddo eistedd wrth y tân. "Mi fydd D'ewyrth Huw yn chwara' i Aston Villa eto, wel'di. Estyn y draughts 'na imi gael rhoi cweir i'th dad a thitha' hefo'ch gilydd."

"Mi ddoi di hefo'r gwanwyn 'ma, Huw," oedd geiriau fy mam bob dydd wrth f'ewythr. Ond fel y llithrai'r gwanwyn heibio, cloffi'n fwyfwy a wnâi, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r arferiad o'm cyfarfod i o'r ysgol. Ai allan ychydig ar ddwy ffon a sefyllian yng ngwaelod y stryd tua'r adeg y deuwn adref am ginio neu de, ond aeth hyd yn oed hynny yn drech nag ef cyn bo hir.

"Chi prynu cadair, Huw Davies," meddai Doctor Andrew un diwrnod. "Chi mynd fel fflamia' wedyn drw'r pentra yn lle ista fel broody hen all day. Fi gwbod am un second-hand a chi prynu honno yn reit cheap."

Cyn diwedd yr wythnos honno, yr oedd f'ewythr yn mynd 'fel fflamia' drwy'r pentref yn ei gadair, ac yn fy nghyfarfod o'r ysgol bob bore a phob prynhawn. Yn ei gadair y bu am weddill byr ei oes.

Dylai fy atgofion am F'ewythr Huw fod yn rhai dwys a