Tudalen:O Law i Law.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fwstas yn big tenau bob ochr i'w wyneb. Gwisgai ddillad golau fel rheol, a het galed fechan am ei ben. Ymddangosai, yn wir, fel rhyw aderyn dieithr, lliwiog, a syrthiasai i blith cwmni o frain go aflêr.

Aderyn uchel ei sŵn ydoedd Ben. Gallech glywed ei chwerthin ganllath o'r Bont, yn codi'n fwrlwm ar ôl bwrlwm nes troi'n besychiad poenus, cas. Y peswch hwnnw a'i cadwasai ef o lwch y sied yn y chwarel. Pan gyrhaeddech y Bont, caech ef yn rhegi'r peswch ac yn sychu ei lygaid â chadach poced o sidan amryliw. Nid oedd ganddo, am a wn i, ddiddordeb yn y byd, a gwyddai pawb fod yr hen frawd, ar waethaf ei dipyn rhodres, yn dlawd ofnadwy. Yr oedd yn hen pan gofiaf i ef gyntaf; nid oedd fawr hŷn pan laddwyd ef gan y peswch rai blynyddoedd wedyn. A daliodd i chwifio 'i gadach sidan ac i gyrlio'i fwstas hyd y diwedd.

Pan âi pethau'n o fflat yn un o seiadau'r Bont neu siop y barbwr, tynnai f'ewythr goes yr hen Ben Francis ynghylch ei yrfa fel actor. Gyrfa fer iawn oedd honno, gan mai unwaith yn unig yr ymddangosodd Ben ar lwyfan, ond yr oedd ganddo ddigon o storïau, llawer ohonynt yn ddychmygol, am nosweithiau prysur y "rihyrsals" yng ngweithdy William y Saer. William Pritchard, tad Huw Saer, oedd yr arloeswr ym myd y ddrama yn y pentref; yn wir, am a wn i nad oedd yn arloeswr yng Nghymru gyfan. Yr oedd gan William Pritchard chwaer yn byw yn Lerpwl, ac ar rai o'i ymweliadau â hi y cafodd flas ar ddrama. Er y gwyddai y câi ef a'i fagad o actorion eu torri allan o'r capel, penderfynodd godi cwmni. Lluniodd y ddrama, rhyw fath o basiant ar hanes cynnar y Cymry, ei hun, ac wedi llawer o gymell (a thalu am ambell beint yn ddistaw bach) casglodd i'w weithdy nifer go afrwydd o chwaraewyr at y gwaith. Mawr oedd y sŵn a'r gweiddi yng ngweithdy'r saer fel y chwifiai'r hen Gymry dewrion eu gwaywffyn yn yr awyr ac y bloeddient "I'r gad! I'r gad!" Mwy oedd difyrrwch y pentref noswaith y perfformiad, pan aeth y llen i fyny ar hwn-a-hwn a hwn-a-hwn wedi eu gwisgo mewn crwyn defaid a chrwyn geifr. Prin y bwriadodd Rhagluniaeth i goesau rhai o'r actorion hyn gael arddangosiad cyhoeddus ar lwyfan, ac ar oedd yno un hen gyfaill go dew — un o wŷr y tâl o beint