Tudalen:O Law i Law.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ddistaw bach — a wnâi i'r bobl feddwl am benbwl wedi magu dwy o goesau tenau, ysig. Cafodd y Brythoniaid hynafol hyn gymeradwyaeth fyddarol pan syrthiodd y llen ar ddiwedd yr olygfa gyntaf. Plesiwyd hwythau 'n fawr iawn gan dderbyniad mor wresog, ac ar waethaf ymdrechion William y Saer, rhuthrodd amryw ohonynt allan o'r Neuadd ac ar draws y ffordd i fynegi eu llawenydd wrth ŵr y Red Lion. Yr oedd rhai o'i filwyr glewaf ar goll pan yrrodd William Pritchard y llen i fyny eto mewn ymateb i gurotraed y gynulleidfa. Erbyn hyn, gwelid dwy blaid ar y llwyfan, y Brythoniaid ar un llaw a'r Sgandinafiaid ar y llall. Go denau oedd rhengoedd y ddwy blaid pan godasai'r llen, ond cynyddai eu rhif o un i un fel y llithrai'r amser ymlaen. Bu ymdaro mawr tua diwedd yr olygfa, a syrthiodd y llen eto yn sŵn cymeradwyaeth heb ei hail. Plesiwyd y Brythoniaid a'r Sgandinafiaid yn fawr eilwaith, a rhuthrasant eto tros y ffordd i fynegi eu llawenydd wrth ŵr y Red Lion. Hir fu amynedd y gynulleidfa, ond bu raid i William y Saer godi'r llen o'r diwedd i dawelu'r curo-traed a'r gweiddi a'r chwibanu. Eisteddai cwmni o'r Brythoniaid — yn eu mysg nifer a fu'n Sgandinafiaid ychydig cyn hynny — mewn llannerch werdd-las yn y coed yn rhoi un o wŷr y llwythau gogleddol ar ei brawf. Dedfrydwyd ef i farwolaeth: oni laddasai'r abad a llosgi'r abaty yn y glyn islaw? Yr oedd pawb yn unfryd y dylid ei grogi yn ddioed, a chydiodd dau o'r Brythoniaid ynddo i'w gludo ymaith. Syfrdanwyd hwy gan lais sydyn o ochr y llwyfan,

"Howld, hogia', howld!"

Daeth Ben Francis i'r golwg yn carnu braidd yn ansicr, ac ni allai hyd yn oed y gŵr condemniedig ymatal rhag pwff o chwerthin wrth weld, uwchlaw'r croen dafad a'r breichiau noeth, het galed fechan am ei ben. Camodd Ben yn sigledig i flaen y llwyfan i gydnabod, trwy dynnu ei het, guro-dwylo a chwerthin y gynulleidfa, a gollyngodd William Pritchard y llen y tu ôl iddo a gadael pethau am y noson rhwng Ben Francis a'r dorf.

Cododd William y Saer gwmni arall rai blynyddoedd wedyn, ond nid oedd yn ei ddrama newydd ran a dybiai'n ddigon anodd i athrylith Ben Francis. Ni phoenai Ben ryw