Tudalen:O Law i Law.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tyddyn Llus oedd ei gorff. Yr oedd yn glamp o ddyn tal a thrwm, yn pwyso cymaint â'r lleill hefo'i gilydd. Nid oedd dim digrifach na dadl rhyngddo ef a Ben Francis, Ben yn parablu pymtheg y dwsin mewn llais soprano uchel, ac Ellis Ifans yn ceisio gweiddi ar ei draws â'r llais bas dyfnaf a glywsoch erioed. Weithiau, pan fyddai Rhisiart Owen yn un o'i hwyliau gorau, clywech ddeuawd chwerthin o gyffìniau'r Bont, bwrlwm meinllais Ben, fel sŵn llygod ar biano, yn cydredeg â brefìadau dwfn Ellis Ifans.

Nid oedd "'r hen Êl" yn llawn mor barchus â'r lleill; hoffai ei wydraid, a châi gerydd aml gan William Williams oherwydd y rhegfeydd a ffrwydrai drwy ei iaith. Yr oedd ganddo ffordd bell o Dyddyn Llus i'r Bont neu i Siop Preis, rhyw hanner milltir serth i lawr llethrau Bryn Llus, ond fe'i ceid ef yn y cwmni ar bob tywydd bron. Os byddai ei le wrth y Bont yn wag, gallech fod yn weddol sicr ei fod yn pwyso wrth far y Red Lion ac yn ailadrodd, gydag awdurdod a pheth anghywirdeb, rai o'r pethau doeth a glywsai ar fin Rhisiart Owen.

Unwaith yr wythnos yr âi Ellis Ifans i Siop Preis i eillio'i wyneb, a hynny y peth olaf un ar nos Sadwrn. Âi'r cwmni yno gydag ef i wylio'r gorchwyl, ac i ddadlau bob tro y dylai Preis godi dwbl neu drebl ar ŵr a adawsai i'w farf dyfu am wythnos gyfan. Ar un o'r nosweithiau hyn y chwaraewyd y cast a roes ddeunydd chwerthin i'r ardal am wythnosau lawer.

Buasai Ellis Ifans yn absennol o'r Bont am rai dyddiau, ac nid ymddangosodd wrth far y Red Lion nac yn Siop Preis ychwaith. Aeth nos Sadwrn heibio heb iddo eistedd yng nghadair y barbwr, a mawr oedd yr holi yn ei gylch ymhlith ei gymdeithion. Daeth i lawr i'r Bont brynhawn Mercher a'i farf yn un hir iawn. Buasai, meddai ef, o dan annwyd trwm, a dim ond "rhyw bicio i lawr i weld yr hogia'" yr oedd—a galw am funud yn y Red Lion.

"Beth am iti gael shêf tra wyt ti i lawr, yr hen Êl?" oedd awgrym caredig Ben Francis.

"O twt, mi wna' i'r tro tan nos Sadwrn, wel'di," meddai yntau' Ac i ffwrdd ag ef adref ac yn ôl i'w wely i geisio cael llwyr ymwared o'r annwyd.

Bu rhyw sibrwd a wincio a checian chwerthin a phwnio'i