Tudalen:O Law i Law.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ym mhrotest y cwmni. Uchel hefyd oedd eu cydymdeimlad ag Ellis Ifans pan gododd y gŵr barfog hwnnw o'i gadair i syllu ar ei wyneb yn y drych. Gan ei fod braidd yn feddw, nid oedd yn rhyw sicr iawn ar y cychwyn ai ei wyneb ef oedd yn y drych ai peidio; rhythodd arno am ennyd, ac yna camodd yn ôl i'w weld o hirbell. Dechreuodd chwerthin tipyn wrth syllu arno, ac yna nodiodd yn gyfeillgar ar y drych ac ar Sergeant Davies bob yn ail. Sobrodd lawer wrth olchi'r sebon ymaith â dŵr oer, a rhythodd eilwaith ar yr wyneb yn y drych.

"Hannar lleuad, myn diawl, Sergeant," meddai.

"Hannar mwstas hefyd."

"'Rŵan, adra â chi, Ellis Ifans."

"Ond Sergeant bach, sut gythral y medra' i fynd i'r capal bora 'fory? 'Does gin i ddim rasal na brwsh na sebon-shefio na dim yn y tŷ 'cw."

Awgrymodd un o'r cwmni y dylai drio pladur am y tro, ac aeth Sergeant Davies gydag ef beth o'r ffordd adref gyda gorchymyn swta i Preis i gau'r siop.

Crwydrodd Rhisiart Owen a Ben Francis i fyny i gyfeiriad Bryn Llus bore trannoeth i geisio cymell ' 'r hen Êl' i ddod gyda hwy i'r capel. Ond clwyfwyd hwy gymaint gan eu derbyniad yno, a chan iaith Ellis Ifans, nes iddynt frysio'n ôl i'r pentref i achwyn arno wrth Sergeant Davies.

Yr oedd Ellis Ifans yn siop y barbwr dipyn yn gynharach y nos Sadwrn ddilynol. Cododd o'r gadair gydag ochenaid o ryddhad, a sychodd ei wyneb â'r lliain yn araf a gofalus. Gwelodd Richard Preis ef yn cydio yn y silff-ben-tân fel petai rhyw wendid wedi dyfod trosto'n sydyn.

"'Ydach chi ddim yn teimlo'n dda, Ellis Ifans?" gofynnodd.

"Rhyw bendro am funud, " meddai yntau. "Wedi brysio tipyn gormod, wel'di."

Rhoes ei gôt amdano a tharo'i het am ei ben a pharatoi i gychwyn adref. Ond cydiodd drachefn yn sydyn yn y silff-ben-tân, a gwelodd y cwmni ei goesau'n gwegian oddi tano. Syrthiodd yn swp i'r llawr, a rhuthrodd pawb ato i'w gynorthwyo.

"Ffit, " meddai Richard Preis.

"Strôc,"mcddai Ben Francis.