Tudalen:O Law i Law.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Agorwyd ei goler a thaflwyd dŵr oer ar ei wyneb, ond ni thyciai dim i'w ddwyn ato'i hun. Cofiodd Richard Preis fod ganddo botel o frandi yn y tŷ, a brysiodd i'w hymofyn. Gwnaeth diferyn o hwnnw fyd o les i'r claf; dechreuodd ymysgwyd a mwmian rhywbeth am "fynd adra." Yn y cyfamser, rhedasai Rhisiart Owen i dŷ'r meddyg, ond yr oedd Doctor Andrew ar gychwyn allan, a'r cwbl a allai awgrymu oedd i Risiart Owen a'r lleill ofalu mynd ag Ellis Ifans adref ar unwaith a'i roi yn ei wely. Addawodd Rhisiart wneuthur hynny, a rhedodd yn ôl bob cam o dŷ'r meddyg i siop y barbwr.

"Mynd â fo adra a'i roi o yn 'i wely ar unwaith, " meddai, a'i wynt yn ei ddwrn. "At wans. Ffery sirios."

Ond sut yn y byd y cludid ef i'w gartref, ryw hanner milltir i fyny ar lethr serth Bryn Llus? Nid oedd cerbydau modur y pryd hwnnw mewn ardal wledig fel Llanarfon, a hyd yn oed pe bai rhai, garw a chul oedd y ffordd i Dyddyn Llus. Beth am gar a cheffyl y Doctor? Yr oedd ef newydd fynd allan i rywle. Caseg Jones y Pobydd.? Un go ryfedd oedd Jones, a byddai ganddo, yn bur sicr, ryw esgus mawr tros gadw'r gaseg yn yr ystabl. Ceffyl a char Siop-y-Gongl? Y ceffyl newydd farw, meddai rhywun, a Huws wedi bod ym Mhontnewydd y diwrnod hwnnw yn chwilio am un arall. Mul Wil Penwaig? Byddai Wil yn feddw gaib erbyn hyn, ac mor ddideimlad â'i ful.

"B . . b . . be' wnawn ni, deudwch?" meddai Preis, a'i bryder yn codi atal-dweud arno.

"Berfa, " meddai Rhisiart Owen.

Rhoes y claf ei dafod allan i awgrymu yr hoffai ddiferyn arall o'r brandi. Gloywodd ei lygaid a gwenodd ychydig pan gafodd lawciad ohono.

"Gan bwy mae un, deudwch?" gofynnodd Preis.

"William y Saer," meddai Ben Francis. "Mi a' i i'w nôl hi 'rŵan."

Rhedodd Mrs. Preis hefyd i lawr i'r Red Lion i gael potelaid arall o'r brandi; yr oedd yn amlwg fod pob llawciad o'r ddiod honno 'n rhoi bywyd newydd yn y gŵr diymadferth. Cyrhaeddodd hi a Ben Francis yn ôl tua'r un adeg — Ben yn gwthio'r ferfa i mewn, ar ôl peth anhawster wrth y drws, i ganol y siop. Cafwyd cryn drafferth i godi'r