Tudalen:O Law i Law.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cawr o ddyn iddi, ond llwyddasant o'r diwedd trwy i Richard Preis a Mrs. Preis afael yn ei freichiau ac i Rhisiart Owen a Ben Francis gymryd coes bob un. Yn ffodus, yr oedd cefn go uchel i'r ferfa, a rhoddwyd ef i led-eistedd ynddi, a chlustog gyffyrddus dan ei war.

"O, mi rown ni'r hen El yn ei wely'n reit gynnar," meddai Rhisiart Owen, yn cydio ym mreichiau'r ferfa ac yn ei chodi i deimlo'r pwysau. "Caria di fy ffon i imi, Ben."

Gwthiodd y ferfa i'r drws, ond ataliwyd ef rhag mynd gam ymhellach gan ochenaid fawr o enau'r claf. Brysiodd Preis at ben y ferfa i weld tafod fawr Ellis Ifans yn hongian allan, a rhuthrodd Mrs. Preis am y botel frandi. Esmwythaodd diferyn o'r ddiod ef yn arw.

"Gwell inni fynd â'r brandi hefo ni," meddai Ben Francis, a rhoes y ddwy botel, un bob ochr, ym mhocedi ei gôt.

Noson glôs, drymllyd, yn yr haf oedd hi, rhyw noson lethol y teimlai Rhisiart Owen a Ben Francis — a phawb arall, o ran hynny — yr hoffent eistedd yn eu crysau ar y 'landing' wrth y llyn a'u traed yn chwarae dan y dŵr. Nid noson i wthio cawr o ddyn mewn berfa i fyny Bryn Llus, yr oedd hynny'n sicr ddigon. Ond â'i draed yn mynd yn fân ac yn fuan o dan bwysau'r ferfa, gwthiai'r 'Manawyd' ei lwyth yn bur eofn a medrus. I osgoi'r bobl ar y Stryd Fawr, troes wrth y Bont, er y gwyddai fod allt serth Fron Lwyd o'i flaen. Rhoes y ferfa i lawr wrth waelod yr allt, a sychodd y chwys oddi ar ei dalcen ac oddi ar ei ben moel. Cydiodd Ben Francis ym mreichiau'r ferfa, ac i ffwrdd â hwy i fyny'r Fron.

"Tria'i chadw hi mor wastad ag y medri di, Ben," meddai Rhisiart Owen, gan gofìo bod Ben yn gloff. "Sut 'rwyt ti'n teimlo ' rŵan, 'r hen Êl?"

Ochenaid fawr oedd yr ateb o'r ferfa, ond gwelai Rhisiart Owen fod tafod Ellis Ifans yn hongian allan ac yn ysgwyd fel fflag mewn gwynt.

"Aros am funud, Ben, inni gael rhoi llymaid o'r brandi 'na iddo fo."

Er na wthiasai'r ferfa ond ychydig lathenni, yr oedd yn dda gan Ben gael 'aros am funud.' A daeth pwff cas o besychu trosto yn fuan iawn ar ôl iddo ailgydio yn ei waith. Araf iawn, yn wir, fu'r daith i fyny'r Fron Lwyd, ond