Tudalen:O Law i Law.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyrhaeddwyd ei phen o'r diwedd, ac eisteddodd dau hynaf- gwr blin yn ddiolchgar ar fin y ffordd.

"Mae 'na hanas yn un o'r llyfra', Ben, am Llywelyn Fawr yn cael 'i gario ddeng milltir gan ddau o'i filwyr. 'Roedd o, fel mae 'i enw fo'n deud, yn ddyn mawr iawn, tros 'i chwe troedfadd, wel'di . . ."

"Dim mwy nag Ellis Ifans," meddai Ben, ac yr oedd yn amlwg nad oedd ganddo ronyn o ddiddordeb yn y stori. Penderfynodd Rhisiart Owen ei chadw at ryw achlysur arall, a chydiodd eto ym mreichiau'r ferfa.

Gŵyrai'r ffordd i lawr yn allt fechan o ben Fron Lwyd cyn dechrau dringo Bryn Llus. Yr oedd Rhisiart Owen yn hanner-rhedeg i lawr yr allt, ond baglodd cyn cyrraedd y gwaelod a gollwng ei afael ar y ferfa, gan adael iddi lithro'n swnllyd o'i flaen. Yn ffodus, arhosodd y ferfa ar ei thraed, ond galwai'r ysgytiad a gawsai'r claf am ddiferyn arall o'r brandi iddo.

"Gyrru gormod, Rhisiart Owan, " meddai Ben, a gwthiodd ef y ferfa yn araf a gofalus i waelod y lôn serth a ddringai Fryn Llus. Gorffwysodd y ddau yno, gan geisio peidio â meddwl am y llethr o'u blaen.

"Dy dro di, Ben, " meddai Rhisiart Owen o'r diwedd.

"Y?"

"Dy dro di."

"Tro pwy?

"Dy dro di. Tyd yn dy flaen."

"Pwy ddath â hi i fan'ma, Rhisiart Owan?"

"Pwy ddath â hi i lawr Allt Lwyd? Tyd yn dy flaen."

"Ond damia unwaith, fi oedd yn 'i gwthio hi ddwytha'."

"Petawn i'n clywed iaith fel'na yn dŵad o'r ferfa, Ben Francis, mi faswn i'n medru madda' i'r truan sy'n eistadd ynddi hi. Un felly ydi Ellis Ifans, hen bechadur o regwr, a mi fydda' i'n meddwl weithia' nad ydi.o ddim yn llawn llathan, ond mae . . . "

Daeth anesmwytho ac ochain ac ysgwyd tafod o'r ferfa, a rhuthrodd y ddau i roi diferyn arall o'r brandi i Ellis Ifans.

"Fel yr on i'n dweud," meddai Rhisiart Owen, ar ôl i'r gŵr yn y ferfa ymdawelu, "petaswn i'n clywed Ellis Ifans yn defnyddio iaith fel'na, mi fedrwn i fadda' iddo fo. Un gwyllt, annosbarthus, digrefydd fuo' fo 'rioed. Ond mae