Tudalen:O Law i Law.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eraill sy'n pwyso ar y Bont erbyn hyn, ac y mae'n bur debyg y bydd Samuel Robcrts yno yfory, yng nghadair F'ewythr Huw. Aethant o'r Bont Lwyd o un i un.

"Pwy oedd yno heddiw, Huw?" fyddai cwestiwn fy mam pan ddôi f'ewythr i mewn i de neu i swper.

"O, yr hen griw, Elin. Pawb ond yr hen Risiart."

"'Ydi o'n cwyno, Huw?"

"Ydi. Yn 'i wely, medda' Ben Francis. 'I galon o, yn ôl y Doctor."

"Aros di, 'faint ydi oed 'r hen Risiart, dywad?"

"Mi fydd o'n bedwar ugain mis Ebrill nesa', medda' Ben."

Ond ni welodd Rhisiart Owen yr Ebrill hwnnw. A phesychodd Ben Francis ei besychiad olaf tua'r un adeg. Yr oedd Ellis Ifans yn angladd y ddau, a mynnodd gael rhoi ei ysgwydd o dan yr elor y ddau dro. A'r haf hwnnw, ar ddiwrnod heulog, braf, ac aroglau gwair lond yr awyr, cerddais wrth ochr cadair f'ewythr i waelod y ffordd a ddringai Fryn Llus.

"Dyna'r hen Ê1 yn mynd i lawr i'r pentra am y tro ola', wel'di, " meddai pan âi'r hers a'r cerbydau eraill heibio ar eu ffordd i'r fynwent. "'Mae 'nghyfeillion adra'n myned' ydi hi, John bach." Ni wyddai yr ymunai yntau â hwy cyn hir.

Cofiaf yr amser hwn yn dda iawn. Teimlwn, fel pob hogyn newydd adael yr ysgol a chael ei drowsus hir cyntaf, yn fwy na llond fy nghroen. A chlir yn fy meddwl yw'r bore hwnnw pan ddechreuais weithio fel "jermon", rhyw brentis o chwarelwr, hefo'm tad.

"Rhaid iti godi cyn brecwast, 'fory, John bach'," meddai f'ewythr wrthyf y noswaith gynt.

"Cyn i chi roi tro, F'ewyrth Huw."

"'Gawn ni weld, 'ngwas i, " meddai yntau â winc fawr ar fy nhad.

Codais yn fore drannoeth, ymhell cyn i'm mam fy ngalw, a brysiais i lawr y grisiau yn fy nhrowsus melfared newydd, un a luniwyd imi gan fy mam allan o hen drowsus i m hewythr. Pwy oedd yn y gadair-siglo, yn mwynhau cwpanaid a mygyn, ond F'ewythr Huw.

"Be' ydach chi'n wneud i fyny mor fora, F'ewyrth Huw?

"Dŵad hefo chdi i'r chwaral, debyg iawn, John bach. Dŵad i ddysgu iti sut mae naddu a hollti."