Tudalen:O Law i Law.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â fo'n ôl i'w wely, Robat Davies!" neu "Babi newydd acw, Robat? "neu "Mynd i ddangosy chwaral i'r gŵr bonheddig John bach? "Yr oedd gan F'ewythr Huw ateb llon a pharod i bob un, ond sylwn, er hynny, fod y gadair yn symud dipyn yn arafaçh, fel petai ei freichiau'n blino'i gyrru.

"'Ga' i'ch gwthio chi am sbel, F'ewyrth Huw?"

"Cei, John bach. 'Rydw' i wedi codi'n rhy fora hiddiw, fachgan. Heb ddeffro'n iawn eto."

Gwthiais innau'n ddygn, gan geisio cadw i fyny â'm tad ac Ifan Jones a gerddai o'n blaenau. Cymerodd f'ewythr fantais ar y cyfle i roi cyngor neu ddau imi.

"Cofia di wrando ar dy dad pan fydd o'n egluro petha' iti—gwrando a chau dy geg. Hefo dy glustia' mae gwrando, wsti. ac os ceui di dy geg, aiff llwch y chwaral ddim i mewn iddi hi. A phan fyddi di'n dechra' dysgu, paid â mynd i feddwl mai chdi sy'n rhedag y chwaral ' rŵan; 'roedd yr hen le yno o dy flaen di, John bach, ac mi fydd yno ymhell ar dy ôl di hefyd."

"Bydd, F'ewyrth Huw."

"Ond cofia wneud dy waith yn drwyadl, mor drwyadl â'th dad ac Ifan Môn, dau o'r chwarelwyr gora' weli di byth. Paid ti â defnyddio'r frawddeg, 'O, mi wnaiff y tro': brawddeg dyn diog ydi honno, wel'di."

Aeth Mr. Walters, y stiward, heibio a'n cyfarch.

"Mae Tom Walters yn hen fôi iawn, wsti — chwarelwr wedi tyfu'n stiward heb gowtowio i neb. A dyna iti beth arall i'w gofio, 'ngwas i: paid â llyfu llaw un marciwr cerrig na stiward na neb. 'Dydw' i ddim yn cofio be' oedd y saith pechod marwol y byddai'r hen William y Saer yn arfar traethu arnyn' nhw yn y seiat, ond 'rydw' i'n berffaith siŵr y dylai seboni fod yn un ohonyn' nhw. A'r mwya' marwol o'r cwbwl, am wn i. Cythral mewn croen ydi sebonwr, wel'di."

Ni fyddai f'ewythr byth yn rhegi, a synnwn braidd fod ei iaith mor gref ar fater y seboni. Ond gwyddwn nad oedd dim yn fwy atgas gan ei natur annibynnol ac onest ef na'r llyfu-llaw a'r ffuantwch a welid yng ngwŷdd stiwardiaid y chwarel.

"Rhed ar 'u hola' nhw 'rŵan, 'ngwas i," meddai wrthyf pan oeddym wrth Bont y Rhyd, ryw ganllath oddi wrth y