Tudalen:O Law i Law.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V—BWRDD Y GEGIN

Wel, dyna fore Gwener heibio, a diolch i'r nefoedd am hynny. Yr oedd y lle yma fel ffair drwy ran olaf y bore, a minnau fel gŵr a godasai stondin yn ei chanol. Teimlwn yn bur euog wrth brisio a gwerthu'r peth hwn a'r peth arall. Nid hawdd yw prisio pethau sydd uwchlaw pob gwerth, yn ddarnau byw o atgofion. Deuai rhyw ysfa trosof i glirio pawb o'r tŷ, fel y taflodd Crist y newidwyr arian allan o'r deml. Ond beth arall a wnaf i hefo'r dodrefn yma ond eu gwerthu? Pe medrwn, awn â hwy i gyd hefo mi, ond nid oes le i fawr ddim yn fy llety, a ffolineb fyddai imi gadw'r tŷ yma yn fy nwylo i warchod tipyn o ddodrefn. Ac yn enwedig gan fod tai yn dechrau mynd yn brin yn yr ardal, a'r rhenti, o'r herwydd, yn o uchel. Na, nid oes dim arall i'w wneud er mor anodd ydyw gollwng fy ngafael ar lawer dodrefnyn. Teimlwn i'r byw gynnau pan afaelodd Leusa Morgan, gwraig Now Cychod, mewn clustog a wnïwyd gan fy mam, a'i dal i fyny am ennyd cyn troi ei thrwyn a'i thaflu'n ôl yn ddiseremoni ar un o gadeiriau'r parlwr. Ydyw, y mae hi'n anodd gweld y pethau'n mynd o un i un.