Tudalen:O Law i Law.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ai dychmygu yr oeddwn pan feddyliais imi ganfod rhith o gerydd yn llygaid Meri Ifans pan werthais i'r gadair-siglo? Ia, y mae'n debyg.

Yn yr hen gadair-siglo yr eisteddai fy mam gyda'r nos, cyn ac ar ôl swper, i wnïo neu drwsio neu weu, gan ei siglo ei hun yn araf a thaflu ambell air tawel i mewn i'r sgwrs. Rhywfodd, ni feddyliai fy nhad na minnau am eistedd yn y gadair honno; cadair fy mam ac nid neb arall oedd hi, er na chofiaf iddi ei hawlio erioed. Os digwyddwn i fod allan yn o hwyr, ynddi hi yr arhosai amdanaf, gan ryw hanner cysgu uwchben ei gweu, a'i chlust yn effro i bob sŵn o gyfeiriad lôn a dôr y cefn.

Unwaith yn unig, am a wn i, y syrthiodd i gysgu. Aethai'r hen Enoc Jones y Post ar goll ers dyddiau, a thaerai rhai iddynt ei weld â'i wyneb tua'r mynydd. Ymunais innau â'r fintai a aeth i chwilio amdano. Daliwyd ni gan y nos a'r niwl ar ochr y Foel, ac yno y buom, yng nghysgod craig fawr, am rai oriau. Pan gyrhaeddais adref, sleifiais yn ddistaw bach drwy'r ddôr a thrwy ddrws y cefn, a gwelwn, wrth gyrraedd y gegin, fod fy mam yn cysgu yn y gadair- siglo a'r hosan a drwsiai wedi llithro i'r llawr. Deffroes yn sydyn.

"Ond wyt ti'n hen ffŵl gwirion!" meddai'n wyllt. "'Dwyt ti ddim hannar call. 'Oes na ddim byd yn dy ben di, dywed?"

Edrychais braidd yn syn arni, a gwenodd hithau.

"Diolch dy fod ti'n iawn, John bach. 'Ron i'n breuddwydio dy fod ti wedi syrthio tros ryw glogwyn mawr ar y Foel 'na, wel'di. Ac Enoc Jones yn dawnsio ac yn gwneud campau uwch dy ben di. Fel 'tasa'r hen Enoc druan yn medru gwneud unrhyw gampau a fynta'n methu symud bron hefo'r cric-cymala'! 'Ddaethoch chi o hyd iddo fo?"

"Naddo, wir, 'mam."

"'Oes raid i chi fynd i grwydro'r hen Foel 'na nos 'fory eto?"

"Oes, os na ddaw o i'r golwg cyn hynny."

Ond ni bu raid dringo i'r mynydd y noson wedyn, oherwydd fe gafwyd y postfeistr druan mewn pwll go ddwfn yn Afon Lwyd y bore trannoeth. Yr oedd y pwll hwnnw