Tudalen:O Law i Law.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond mi rois fy mhen yn slei rownd y drws, a dyna lle'r oedd y ddau yn trio codi ystyllan y bwrdd a gwthio'r ddau bren oedd yn 'i dal hi yn ôl i'w lle."

"Be' oedd wedi digwydd, Ella?"

"Y cradur mawr dwl! Wedi eistadd ar ochor y bwrdd, os gwelwch chi'n dda, a'r ystyllan wedi rhoi o dano fo. Y wing, ydach chi'n dallt. 'Mi trwsia' i o iti nos 'fory pan ddo' i adra o'r chwaral, 'r hen gariad,' medda' fo. 'Trwsio, wir!' medda' finna'. 'Beth am y ddwy ffenast 'na sy ddim yn agor, y feis yn gollwng drwy'r dydd, y ddôr na fedar neb mo'i chau hi, y dŵr sy'n dŵad i mewn i'r llofft gefn ac i'r cwt-ieir?' 'Thrwsiodd o ddim byd 'rioed, John Davies, dim ond malu petha'. Ac mae'r gegin acw'n edrach yn rhyfadd hefo dim ond tri-chwartar bwrdd ynddi hi. Y ffwlpyn iddo fo! Rhoi 'i hen ben-ôl mawr ar le mor wantan! Ymh'le yr oedd synnwyr y dyn, meddach chi?"

Cydymdeimlais ag Ella yn ei phrofedigaeth, a dweud bod croeso iddi gael y bwrdd ond iddi ei adael yma tan yfory.

Pan aeth hi i'r gegin fach i olchi'r llestri ar ôl cinio, syllais yn hir ar y bwrdd ag atgofion yn ffrydio i'm meddwl. Y bwrdd yw brenin y gegin, onid e? "Gosod y bwrdd," "clirio'r llestri o'r bwrdd," "gwneud lle ar y bwrdd" i rywbeth neu'i gilydd, "rhoi'r lamp ar y bwrdd "gyda'r nos — y mae darlun cynnes, agos-atoch, ym mhob brawddeg. A chofiwn fel y taflwn olwg ar y bwrdd wrth ddod i mewn i'r tŷ bob amser. Y llestri gwynion arno, a'm mam yn gosod lle i dri — dyna ddydd cyffredin, diddigwydd; y llestri gleision a lle wedi ei osod i bump neu chwech—a dyna edrych ymlaen am groesawu dieithriaid. Llyfr y siop neu'r llyfr rhent ar ei gongl, a gwyddwn fod fy mam ar gychwyn allan. Y lamp yn cael ei symud o'r bwrdd i'r harmoniym cyn ac ar ôl swper nos Lun, a dyna wybod bod fy mam am smwddio am awr neu ddwy. Prynhawn Sul, cyn yr Ysgol, fy nhad yn casglu dau neu dri o esboniadau i'r bwrdd; yna, nos Sul, dim ond hanner y bwrdd yn cael ei osod i swper, a'm tad yn cymryd meddiant o'r hanner arall ar gyfer y blwch o dderw du a "llyfr cownts" y capel. Diwrnod "cynhebrwng mawr" F'ewythr Huw, cadach mawr sidan ar ganol y bwrdd ac ugeiniau o bobl, un ar ôl un, yn taro chwech neu swllt arno, yn gymorth parod tuag at dreuliau'r