Tudalen:O Law i Law.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Winter's Grand Repertory Company. Pam y talodd Winter a'i griw ymweliad ag ardal mor Gymreig â Llanarfon, ni wn, ond cawsant dderbyniad gwresog ar y cychwyn, a thyrrai'r bobl i'r Neuadd i weld mwrdwr ar ôl mwrdwr ar y llwyfan. Dyn ifanc tal, tenau, oedd Winter, ac ef a gymerai ran yr arwr bob tro, a'i briod, y "Winter" arall ar yr hysbysiadau, yn actio'i gariad neu ei wraig fel y byddai gofyn y ddrama. Y dyhiryn bob gafael oedd Joe Hopkins: ef a edrychai dan ei aeliau ym mhob drama ac a gerddai fel petai newydd ddwyn y casgliad mewn Cyfarfod Diolchgarwch. Ac ef, druan, ar ddiwedd pob chwarae, a gâi fwled neu gleddyf drwy ei galon ac a welid yn honcian yn feddw ar draws y llwyfan cyn syrthio fel sach i'r llawr. Mawr oedd rhyddhad y gynulleidfa pan roddai Joe Hopkins ei chwythad olaf wedi ei holl gynllwynio ffiaidd a'i driciau llechwraidd drwy'r gyda'r nos. A mawr hefyd oedd rhyddhad Joe, ac yntau.'n gwybod bod drws y Red Lion heb ei gau.

Coliar o Dde Cymru oedd Joe, ond gadawsai'r lofa, yn gymharol ifanc, i fynd yn ganwr ar lwyfannau rhai o'r music halls yn Llundain. Ond go brin oedd yr arian a ddygasai'r llais tenor cyfoethog i'w logell, a cheisiodd ennill gwell tamaid—a thorri ei syched — trwy droi'n dipyn o actor yn ogystal â chanwr. Ond fel yr heneiddiai, ychydig o waith—ac o ddiod—a gâi Joe, a dechreuodd feddwl am ei throi hi'n ól i'r Cwm ac i'r lofa, er y gwyddai ei fod, bellach, yn rhy dew ac yn rhy feddal i dorri glo a gwthio dram.

Cyfarfu â Winter mewn rhyw dafarn un noson, a chytunodd, uwch peint neu ddau o'r cwrw gorau, i ymuno â'i gwmni a theithio gyda hwy y bore trannoeth i Ogledd Lloegr. Daeth gyda hwy i Lanarfon yn fuan wedyn, ond yr oedd hi'n amlwg, hyd yn oed i bobl y pentref, na fyddai Joe gyda hwy yn hir iawn. Yfai braidd ormod i blesio Winter, a mynnai daflu geiriau fel "myn" a "gel" a "boy bach" i mewn i'w iaith ar y llwyfan. Hyd yn oed pan actiai Arglwydd Rhywbeth-neu'i-gilydd, ni allai Joe ymgadw rhag "Daro, mun "neu "Wel, diawch ariôd "ar ddechrau brawddeg go gynhyrfus.

Bu rhyw bythefnos o garu a herio a chynllwynio yn Saesneg yn ddigon i'r ardal, ac âi'r Neuadd yn wacach,