Tudalen:O Law i Law.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wacach, o noson i noson ar waethaf ymdrechion huawdl Jacob-y-Gloch i ailennyn y brwdfrydedd cyntaf. Tua diwedd y drydedd wythnos, gwaeddai Jacob rywbeth am Grand Farewell Performance, ac aeth Winter a'i actorion ymaith — gan anghofìo talu am fenthyg y Neuadd. Ond gadawsant Joe Hopkins ar eu holau, yn belican unig a sychedig ar ganol yr ysgwâr wrth Siop y Gongl. Yno, yn ôl pob golwg, y treuliai ei ddyddiau, yn troi ei lygaid mawrion i fyny ac i lawr y Stryd Fawr fel un ag awdurdod plismon ganddo.

Gan Joe Hopkins yr oedd y llygaid mwyaf a welais i erioed. Yr oeddynt mor fawr nes gwneud i chwi dybio y gwnâi un ohonynt y tro i bob diben ymarferol. Ar y llwyfan ac ar y stryd troai hwy 'n araf ac urddasol, nes gwneud i ni, blant yr ysgol, gredu bod rhyw rym rhyfedd ac ofnadwy yn y llygaid hynny. Pe safech wrth ei ymyl, gwelech nad oedd fawr ddim bywyd na dyfnder yn y llygaid; yr oeddech fel pe'n edrych ar ddwy bêl o wydr lliwiedig. Ond o bellter, aent â'ch sylw ar unwaith, gan ennyn eich diddordeb yn y dyn tew pioedd hwynt. A gwelech, wrth agosáu ato, farciau gleision y gwaith glo ar ei dalcen ac ar ei drwyn mawr, coch.

Cwmni Joe bob amser oedd ei gi, Sam. Os oedd y meistr yn dew, tenau iawn oedd y ci, ond yr oedd ganddo yntau bâr o lygaid mawr, syn. Annoeth fyddai i chwi holi'n rhy fanwl am linach Sam; mwngrel o'r mwngrelod ydoedd — "anything from Maerdy to Porth, mun," chwedl Joe pan holid ef yn ei gylch. Nid âi Joe i unman heb Sam — ac nid âi Sam i unman heb Joe. Eisteddai yn swrth a diymadferth wrth ochr ei feistr ar yr ysgwâr gerllaw Siop y Gongl, a throai yntau ei lygaid mawr i fyny ac i lawr y stryd bob tro y gwnâi ei feistr hynny, a chyda'r un drem araf ac awdurdodol. Rhyw gymysgedd o gi defaid a milgi ydoedd Sam: dyna, beth bynnag, a gyhoeddai nodweddion amlycaf ei gorff taeog. Wyneb a phen ei defaid a oedd ganddo, ac i'r un traddodiad y perthynai ei gynffon hir a blewog; ond corff a choesau milgi a oedd rhwng y pen a'r gynffon, er i ddiogi a diffyg ymarfer a bwyta'n o ddiddethol ei amddifadu o'i linellau mwyaf lluniaidd. Dilynai ei feistr yn selog at far y Red Lion, a chyn gynted ag y cyrhaeddai yno, gwlychai ei