Tudalen:O Law i Law.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

palmant, daeth Sam ato i gydymdeimlo ag ef. Chwiliodd Joe wedyn am gerrig i'w taflu at y ei, a chan fod un neu ddwy ohonynt yn beryglus o agos ato, dilynodd Sam o hirbell. A'r bore trannoeth, pan gododd Joe i gychwyn am y trên, sleifiodd Sam i mewn i'r gegin i holi sut noson a gawsai a sut hwyl a oedd arno wedi'r gyfeddach y noson gynt. A phan glybu Joe ei chwaer-yng-nghyfraith yn gofidio bod y ci mor amddifad a dibreswyl wedi colli ei feistr, rhyw hen feddwyn o brynwr carpiau ac esgyrn hyd y Cwm, clymodd gortyn wrth ei goler a'i arwain gydag ef i'r orsaf.

Bu Joe a Sam yn rhyw sefyllian ar yr ysgwâr neu wrth far y Red Lion am bythefnos gyfan, a Joe yn edrych yn fwy tlodaidd a di-raen o ddydd i ddydd. Yna, ar ddiwedd yr ail wythnos, cyhoeddodd hysbysiad mawr ym mhob siop yn yr ardal fod Joe Hopkins and Co. yn agor LIVING PICTURES yn y Neuadd y nos Lun ganlynol. Sam, y mae'n bur debyg, oedd yr "and Co." Wrth gymell gŵr y Red Lion i roddi iddo beint neu ddau ar gownt, haerai Joe y byddai, yn fuan iawn, yn dangos ei haelioni a'i gyfoeth trwy ddisychedu pob enaid byw yn y pentref.

Y Sul a fu, a'r nos Lun a ddaeth. Rhoes Joe sylltyn i ryw fachgen am dderbyn y chwechau wrth y drws, a safai yntau gerllaw yn gwenu a moes-ymgrymu i bawb o unrhyw bwys. Cawsai goler-big o rywle a bwa bach du, hynod daclus; a disglair iawn oedd y gadwyn loyw ar draws ei wasgod, er bod amheuaeth fawr yn yr ardal a oedd oriawr ynghlwm wrth y gadwyn honno. Yna, ryw ychydig wedi saith, dringodd Joe yn araf ac urddasol i'r llwyfan ac estyn ei law i fyny i gyfeiriad y weiren a oedd yn hongian o'r lamp nwy uwchben. Wedi cyhoeddi enw'r darlun gwych, mawreddog, aruthrol, rhyfeddol etc., cyntaf, rhoes ei fys yn y fodrwy ar waelod y weiren a thynnu i ddiffodd y golau yn araf, araf. Yna camodd mor urddasol ag y gallai yn y tywyllwch i lawr o'r llwyfan ac ar hyd y llwybr drwy ganol y neuadd at y peiriant a safai ymhlith y seddau cefn. Dyna ysgwâr o olau ar y llen, ac yn fuan wedyn, griw o bobl hynod frysiog ac ysbonclyd yn gweu trwy'i gilydd. A throai Joe handl y peiriant nes ei fod yn chwys diferol.

Rhyfedd oedd ystranciau'r bobl frysiog ambell dro. Deuent i'r llen â'u traed i fyny, efallai, a chymerai Joe arno