Tudalen:O Law i Law.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am beint arall i Wil.

Ond tua chanol yr ail wythnos, dechreuodd breuddwydion Joe am gyfoeth a braster bylu. Hanner gwag oedd y Neuadd, ac aeth pethau o ddrwg i waeth erbyn diwedd yr wythnos. Beth gynllwyn a oedd yn bod ar y bobl? Oni wnâi ef ei orau glas iddynt? Beth a ddisgwylient am chwe cheiniog, a grot? Yr oedd hi'n wir y torrai'r ffilm yn bur aml a bod aros go hir rhwng pob llun; gwir hefyd y dangosai "Whitewashing the Sweep," yr unig lun a oedd ganddo beunydd wrth law, bron bob nos i lenwi rhyw fwlch neu'i gilydd. Ond diawch ariôd, onid oedd ef yn arloeswr ac yn anturiaethwr ym myd celfyddyd hollol newydd? Er hynny, crafodd Joe ei ben i geisio darganfod rhyw ffordd o ddenu'r dyrfa i'r Neuadd. Onid oedd Sam yn dechrau mynd braidd yn sychedig?

O'r llu o fechgynnos a dyrrai o amgylch Joe — gan obeithio cael mynediad rhad ac am ddim i'r Neuadd — myfì a Dic Ifans oedd y ddau ffefryn ganddo. Bachgen mawr llywaeth, babïaidd yr olwg, a chanddo dafod tew, oedd Dic, ond ar waethaf ei ymddangosiad swrth a phlentynnaidd, yr oedd yn gryf fel tarw, a gallai wasgu eich llaw nes peri i chwi wingo. Aem ni'r bechgyn â Dic o gwmpas iard yr ysgol i ysgwyd llaw yn gynnes â phob un a oedd yn dipyn o lanc. Galwodd Joe ni ato un diwrnod ar ôl yr ysgol a dweud bod arno eisiau ein cymorth. Eglurodd y bwriadai roddi bywyd ychwanegol yn y darluniau byw trwy greu, or tu ôl i'r llen, sŵn addas ar gyfer pob llun. Ac i ni, Dic Ifans a minnau, o holl blant y pentref, y cyflwynai'r fraint aruchel honno.

Criais am oriau gyda'r nos honno i geisio cymell fy mam i adael imi wasanaethu Joe Hopkins; ildiodd, o'r diwedd, pan welodd na fwytawn damaid o swper ac na chysgwn ddim nes cael caniatâd i fynd i'r Neuadd bob nos. A'r wythnos wedyn, dyna lle'r oeddwn i a Dic Ifans yn curo dau hanner cneuen goco wrth ei gilydd bob tro y carlamai cowboy neu Indiaid ar draws y llen, neu'n taro cansen ar glustog ledr bob tro y disgwylid ergyd o wn, neu'n taflu clamp o foncyff i gafn o ddẃr pan syrthiai rhywun i fôr neu afon. Taflem lestri i'r llawr, ymladdem â dau brocer i awgrymu twrf cleddyfau, agorem a chauem ddrysau 'n bur aml, cerddem neu rhedem yn drystfawr ar goed neu ar gerrig